Cwrs Nyrsio Oedolion Prifysgol Glyndŵr Wrecsam yn dod i’r brig yn Arolwg Boddhad Myfyrwyr

Mae Prifysgol Glyndŵr Wrecsam wedi ei gosod ar y brig yn y DU ar gyfer Nyrsio Oedolion o ran boddhad cyffredinol myfyrwyr yn yr Arolwg Cenedlaethol o Fyfyrwyr (ACF) eleni*.

Daw’r acolâd mawreddog ar adeg gyffrous ar gyfer yr adran Nyrsio yn y brifysgol, wrth i gytundebau gael eu harwyddo gydag Addysg a Gwella Iechyd Cymru (AaGIC) i lansio cyfres gyffrous o gyrsiau Nyrsio ac Ymarferwyr Perthynol i Iechyd ym Mhrifysgol Glyndŵr Wrecsam.

Gofynnir i bob myfyriwr israddedig yn eu blwyddyn olaf ar draws y DU gwblhau’r arolwg cenedlaethol, sydd yn rhoi cyfle iddynt gael dweud eu dweud ar ystod eang o gwestiynau am eu prifysgol, eu haddysgu ac asesu, y cymorth academaidd a gawsant – a mwy.

Nawr gall staff a myfyrwyr ym Mhrifysgol Glyndŵr Wrecsam rannu eu balchder o safle’r brifysgol yn yr ACF eleni, sy’n datgelu ei bod yn ogystal â dod i’r brig yn siartiau’r DU ar gyfer Nyrsio Oedolion mewn pob un ond un adran o’r arolwg, fe berfformiodd yn gryf mewn meysydd eraill megis Cymdeithaseg (sy’n cynnwys Cyfiawnder Troseddol).

Hefyd gosodwyd Prifysgol Glyndŵr Wrecsam uwchlaw holl brifysgolion eraill Cymru yn rhai o gwestiynau allweddol yr arolwg: ‘Addysgu ar fy nghwrs’, ‘Cyfleoedd Dysgu’ ac ‘Asesu ac Adborth’.

Mae’r brifysgol hefyd wedi ei gosod yn chweched yn y DU ar gyfer ‘Addysgu ar fy Nghwrs’ yn ACF 2021o’r holl gyrff a gydnabyddir yn y DU sy’n gallu dyfarnu graddau.**

Yn gyffredinol, daeth Prifysgol Glyndŵr Wrecsam yn chweched ymysg prifysgolion Cymru am foddhad cyffredinol myfyrwyr, gwelliant ar ei safle blaenorol. Cododd hefyd yn y rhestr o ran Llais Myfyrwyr, gan ddod yn ail o’r holl brifysgolion yng Nghymru.

Wrth sôn am y canlyniadau, dywedodd Is-Ganghellor Prifysgol Glyndŵr Wrecsam, Yr Athro Maria Hinfelaar: “Mae hwn yn ganlyniad gwych ac yn deyrnged i’r bartneriaeth agos rhwng ein staff a’n myfyrwyr."

“Mae pawb wedi dangos eu bod yn gydnerth, wedi gallu addasu yn ystod argyfwng iechyd y cyhoedd unwaith mewn canrif, ac wedi gweithio mor galed i ddarparu profiad addysgol o safon.”

Ychwanegodd Prif Swyddog Gweithredol Undeb Myfyrwyr Prifysgol Glyndŵr, Stefanie Hartley: “Rydym yn hynod falch o’r canlyniadau yma yn dilyn yr hyn a fu’n flwyddyn hynod heriol i fyfyrwyr a’r sector."

“Ein blaenoriaeth fel Undeb Myfyrwyr gydol y pandemig fu parhau i alinio ein hunain gymaint â phosib â’r brifysgol er mwyn inni fedru gosod disgwyliadau eglur a chyson ar gyfer ein myfyrwyr."

“Rydym wedi canolbwyntio ar ddarparu adborth cyson a phenodol gan ein haelodau myfyrwyr yn uniongyrchol i’r Brifysgol ac wedi gwneud newidiadau cadarnhaol gyda’n gilydd."

“Mae’r gwaith cydweithredol yma i’w weld yn y sgôrau ardderchog ar gyfer addysgu, adborth ac yn ein sgôr ni ein hunain fel Undeb Myfyrwyr sydd yn barod ac abl i eirioli dros ein myfyrwyr."

“Rydym wedi profi bod cymuned Glyndŵr yn glynu gyda’i glyd pan fo hi’n amser anodd ac y byddwn bob amser yn parhau i ganolbwyntio ar ddarparu’r profiad gorau posib ar gyfer myfyrwyr.”




* Yn seiliedig ar grŵp pwnc Nyrsio Oedolion CAH3

** Wedi’i fesur yn erbyn rhestr sefydliadau Llywodraeth y DU sy’n gallu dyfarnu graddau – mae’r cyrff cydnabyddedig ar gael yma - https://www.gov.uk/check-university-award-degree/recognised-bodies