Darlithiwr a weithiodd i CPD Caerlŷr yn rhannu ei wybodaeth hefo myfyrwyr Glyndŵr

Tom King holding his Sports Psychology book

Mae seicolegydd perfformiad ym Mhrifysgol Glyndŵr Wrecsam sydd wedi helpu pêl-droedwyr ar eu ffordd i Uwchgyngrhrair Lloegr yn rhannu ei wybodaeth mewn llyfr newydd.

Mae Tom King, sydd wedi gweithio am nifer o flynyddoedd hefo CPD Dinas Caerlŷr, wedi ysgrifennu pennod i’r llyfr newydd, Football Psychology – From Theory to Practice.

Defnyddiodd Tom, sydd yn dod o St Martins ger Croesoswallt, ei brofiad o weithio hefo timau ieuenctid hyd at y garfan dan 23 i archwilio ymddygiad seico-gymdeithasol chwaraewyr academi.

Mae’r bennod yn sôn am sut wnaeth y tîm seicoleg perfformiad trawsnewid strwythur seicoleg y clwb.

“Y broblem ym mhêl-droed proffesiynol hefo seicoleg chwaraeon ydi nad yw llawer o bobl yn deal beth ydi o, mae pawb yn drysu braidd ac mae ‘na neges gymysglyd o ran beth rydym, yn trio’i gwneud fel seicolegwyr,” meddai.

“Mi wnaethom ni drio creu rhaglen gydlynol gall pawb ei ddeall er mwyn i ni wella datblygiad seicolegol ein chwaraewyr.”

Ar ôl graddio o brifysgol, treuliodd Tom tua thair blynedd yn gweithio’n llawn amser hefo adran ieuenctid cyn-bencampwyr Uwchgyngrhair Lloegr, gan hefyd weithio gyda’r staff hyfforddi a rhieni’r chwaraewyr.

Treuliodd Tom y cyfnod hwyrach yn ei amser gyda’r clwb yn gweithio gyda’r tîm dan 23, ac mae dau o’r chwaraewyr bellach yn rhan gyson o garfan y tîm cyntaf.

Mae'r rhaglen - o dan arweiniad Dr Karl Steptoe, sydd hefyd yn brif awdur y llyfr - wedi cael ei mabwysiadu mewn chwaraeon eraill yn ardaloedd Caerlŷr a Loughborough.

Mae Tom wedi gweithio yn Glyndŵr am flwyddyn ac yn mwynhau'r cyfle i rannu ei wybodaeth ymarferol i raglenni academaidd.

Meddai: "Dw i'n meddwl y peth mwyaf dw i wedi'i dysgu yn y flwyddyn ddiwethaf yw bod myfyrwyr gwir yn elwa o wybodaeth o'r amgylchedd cymhwysol - mae'n rhoi pethau yn eu cyd-destun ac yn lle jest siarad am y damcaniaethau tu ôl i Seicoleg Chwaraeon a Pherfformiad, dw i'n gallu trafod sut wnaethom ni eu darparu yng Nghaerlŷr neu mewn chwaraeon gwahanol.

"Dw i'n teimlo fod y myfyrwyr gwir yn elwa oherwydd mewn cyfweliad, bydd cyflogwyr yn disgwyl iddyn nhw drafod sut gall theori cael ei weithredu'n ymarferol yn hytrach na siarad am y theori yn unig. Yn y byd modern, mae gan bawb radd a dw i'n meddwl ei bod yn bwysig iawn fod gan fyfyrwyr rhywbeth sudd yn eu gwahaniaethu o'r pawb arall.

"Mae gan i ddarlithwyr a'r adran yn Glyndŵr profiad sylweddol, sydd yn werthfawr iawn i'r myfyrwyr."

Mae'r llyfr, a gyhoeddir gan Routledge, yn dadansoddi pynciau allweddol mewn seicoleg pêl-droed fel personoliaeth, cymhelliad, gwybyddiaeth ac emosiwn; hanfodion hyfforddi a thîm; sgiliau seicolegol i gryfhau perfformiad; a datblygu chwaraewyr ifanc.
Mae pob pennod yn adolygu'r llenyddiaeth berthnasol, damcaniaethau allweddol, esiamplau o'r 'byd go iawn' a myfyrdodau ar sut i weithredu gwybodaeth yn ymarferol.

"Mantais sydd gan y llyfr yma, dw i'n feddwl, yw nad oes dim llawer o lyfrau seicoleg pêl-droed sydd yn siarad sut mae'r theori waelodol yn berthnasol i ymarfer cymhwysol," ychwanegodd Tom.