Darlithwyr Prifysgol Glyndŵr Wrecsam yn helpu i hybu hyfforddiant ar gyfer staff y gig sy’n mynd i’r afael â her Covid-19

Mae darlithwyr ar gwrs gradd Ffisiotherapi Prifysgol Glyndŵr Wrecsam wedi cynnig eu harbenigedd i helpu i hybu hyfforddiant ar gyfer staff y GIG sydd yn gweithio i fynd i’r afael â her COVID-19.

Mae’r darlithwyr eisoes wedi darparu un sesiwn wyneb yn wyneb ar gampws Plas Coch y brifysgol ac maent am ddarparu hyfforddiant pellach dros y rhyngrwyd.

Yn y sesiwn cyntaf, a gynhaliwyd yng ngwagle dysgu gweithgar newydd y brifysgol (yr ystafell SCALE-Up) – gan ganiatâu cadw pellter rhwng dysgwyr – bu darlithwyr Glyndŵr yn gweithio gyda ffisiotherapyddion o ddau fwrdd iechyd yng Nghymru – gan gynnwys bwrdd iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yma yn y Gogleddg – i helpu i hybu a diweddaru eu sgiliau mewn gofal anadlol.

Roedd yr hyfforddiant ar gyfer y ffisiotherapyddion hynny sydd yn arbenigo mewn trin cyflwyniadau cyhyrolysgerbydol, ac fe’i cyflwynwyd gyda chymorth gwerthfawr Addysg a Gwella Iechyd Cymru (HEIW)

Roedd Julie Wilkins, yr arweinydd proffesiynol ar gwrs gradd Ffisiotherapi Prifysgol Glyndŵr, ymysg y rhai a fu wrthi’n trefnu’r dydd ac a fu’n dysgu’r cyfranogwyr.
 
Dywedodd: “Bydd yr hyfforddiant yma o gymorth i ffisiotherapyddion i gefnogi a gweithio gyda’i cydweithwyr ar y wardiau yn ystod yr adeg prysur yma, gan ddarparu gofal ar gyfer cleifion.

“Rydym yn ddiolchgar iawn i bawb gymerodd ran, i HEIW, ac i’n tîm arlwyo drwy Aramark – a ddarparodd luniaeth a chinio yn rhad ac am ddim ar gyfer y gweithwyr gofal iechyd.”

Ychwanegodd Stephen Griffiths, Cyfarwyddwr Nyrsio yn HEIW: “Mae hwn yn ddarn arbennig o waith ar adeg anodd tu hwnt.

“Mae’n dangos lefel yr ymrwymiad a’r tosturi gan bawb gymerodd wrth ddod ynghyd i gefnogi ein gilydd a gofalu am drigolion Cymru. Rydym yn falch iawn ein bod wedi bod yn rhan o hyn ac yn falch bod cymaint wedi ei gyflawni mewn cyn lleied o amser.”

Ac fe ddywedodd Adrian Thomas, Cyfarwyddwr Gweithredol Therapïau  a Gwyddor Iechyd ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr: “Mae hwn yn enghraifft wych o’r cydweithio sydd yn digwydd rhwng sefydliadau i gwrdd â her COVID-D19. Rydym yn hynod ddiolchgar i bawb a weithiodd i’w drefnu a’i ddarparu mor gyflym.”   


Ychwanegodd Madi Ruby, Deon Cydymaith Menter, Partneriaeth a Chyflogadwyedd yng Nghyfadran Gwyddorau Cymdeithasol a Bywyd Prifysgol Glyndŵr: “Yn ystod y cyfnod yma, mae gweithio mewn partneriaeth yn golygu mwy nag erioed.

“Bydd ehangu’r cysylltiadau rhwng ein Prifysgol, ein byrddau iechyd, HEIW a mwy yn ein helpu i wynebu’r her yma gyda’n gilydd.”