Datganiad mewn ymateb i farwolaeth George Floyd

Mae marwolaeth ddisynnwyr a thrychinebus George Floyd yn Minneapolis wedi'i theimlo ledled y byd; amlygu anghydraddoldeb, gwahaniaethu a materion y mae'n rhaid mynd i'r afael â hwy yn lleol, yn genedlaethol ac yn fyd-eang.

Rydym yn cydnabod y bydd y digwyddiadau hyn yn naturiol yn achosi gofid a phryder i lawer yn ein cymuned PGW, lle mae ein hymrwymiad i amrywiaeth yn allweddol i'n gwerthoedd; creu cymuned sy'n croesawu myfyrwyr, staff ac ymwelwyr o bob cefndir, gan eu gosod wrth galon yr hyn a wnawn, eu trin ag urddas a pharch a darparu mynediad cyfartal bob amser.

Saif PGW wrth ochr pawb sydd wedi bod yn darged casineb, yn seiliedig ar hunaniaeth hiliol, cyfeiriadedd rhywiol, hunaniaeth o ran rhywedd, ethnigrwydd neu grefydd. Rydym wedi ymrwymo i ddileu anghydraddoldeb hiliol drwy ein gweithgareddau parhaus a rhai'r dyfodol, gan arwain at newid parhaol. Mae ein prifysgol wedi ymrwymo i gefnogi, datblygu a hyrwyddo cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant o fewn ei harferion a'i gweithgareddau, gan sefydlu diwylliant ac amgylchedd cynhwysol lle mae staff, myfyrwyr ac ymwelwyr yn teimlo'n hyderus i fod yn nhw eu hunain. 

Mae ein Cynllun Cydraddoldeb Strategol 2020-24 yn nodi ein hamcanion cyffredinol i sicrhau amgylchedd dysgu a gweithio sy'n hyrwyddo cynhwysiant a chyfle cyfartal i bawb sy'n astudio, yn gweithio ac yn ymweld â PGW, gan fanteisio ar bersbectif amrywiol a chyfoeth diwylliannol ein cymuned leol; galluogi ein cymuned i elwa a thyfu gyda'r brifysgol.

Gwyddom fod gennym fwy i'w wneud i gynyddu amrywiaeth ein staff a'n myfyrwyr a'n nod yw gweithio ar y cyd gyda'n staff, myfyrwyr a chymunedau lleol i hyrwyddo cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant yn PGW yn gadarnhaol. Ar yr adeg hon o dristwch ac anfodlonrwydd mawr, mae ein gwasanaethau a'n rhwydweithiau cymorth i fyfyrwyr a staff yma i'ch cefnogi.

Os yw'r digwyddiadau diweddar wedi effeithio arnoch chi, mae croeso i chi gysylltu â'n hundeb myfyrwyr ar Union@glyndwr.ac.uk neu os ydych chi'n aelod o staff, e-bostiwch ein rheolwr amrywiaeth ar gyfer datblygu sefydliadol ar Alison.bloomfield@glyndwr.ac.uk

Mae ein tîm Caplaniaeth hefyd ar gael i bobl o bob hunaniaeth ddiwylliannol, cyfeiriadaeth, ffydd, a rhai dim, ac mae'n cynnig amgylchedd croesawgar a diogel sydd ar gael i chi i gyd. Gallwch gysylltu â thîm y gaplaniaeth yn Chaplains@glyndwr.ac.uk.