Date: Dydd Llun Ionawr 23 2023

Mae myfyriwr gradd Ffotograffiaeth a Ffilm ym Mhrifysgol Glyndŵr Wrecsam yn dathlu ar ôl ennill dwy wobr fawreddog a derbyn cydnabyddiaeth genedlaethol am ei gwaith. 

Cafodd Katie McCormick, myfyriwr blwyddyn olaf yn y brifysgol, ei henwi'n enillydd Gwobr Ffotograffydd Portreadau Stiwdio'r Flwyddyn gan Y Sefydliad Ffotograffiaeth Proffesiynol Prydeinig mewn digwyddiad arbennig yn Preston. 

Roedd delwedd fuddugol Katie yn bortread a dynnwyd o Amaia sy'n naw oed. Wrth greu'r portread, nod Katie oedd cipio portread oesol yn symud i ffwrdd o ddelweddau gonest, meddwl ac amser ei roi mewn posio a goleuadau technegol er mwyn cyflawni'r teimlad meddal o eiliad. 

Wrth siarad ar ôl derbyn y wobr, meddai Katie, sy'n byw yn Yr Wyddgrug: "Rwyf wrth fy modd fy mod wedi ennill gwobr Ffotograffydd Portread Stiwdio'r Flwyddyn yn Sefydliad Ffotograffiaeth Proffesiynol Prydain.  

"Cefais fy synnu’n llwyr pan alwyd fy enw. Doeddwn i methu credu'r peth yn enwedig gan fy mod i fyny yn erbyn rhai ffotograffwyr hynod o dalentog, oedd wedi cynhyrchu gwaith anhygoel.  

"Dwi'n fisoedd i ffwrdd rŵan o orffen fy ngradd, sydd bach yn ofnus ond yn onest, mae wedi bod y profiad mwyaf ffantastig. Dwi wedi dysgu cymaint yn ystod y tair blynedd ac allai byth fod wedi dychmygu ennill gwobr genedlaethol, cyn astudio.  

 "I mi, mae'r cwrs nid yn unig wedi fy ngwthio i wella fy sgil ffotograffiaeth a gadael fy comfort zone, ond dwi hefyd wedi dysgu'r ddamcaniaeth y tu ôl i fy nghrefft. Mae hynny ar ben fy hun wedi newid fy holl bersbectif o ble dwi eisiau mynd am fy nyfodol." 

Mae llwyddiant gwobrau Katie yn dilyn ymlaen o'i gwaith cyntaf a'r ail safle yn ddiweddar gyda Chystadleuaeth Fall 2022 y Ffotograffydd Proffesiynol Achrededig, yn ogystal â chael tair delwedd yn uchel eu canmoliaeth gyda Chymdeithasau Ffotograffwyr yn ystod misoedd Medi, Hydref a Thachwedd. 

Ychwanegodd Stephen King, Arweinydd Rhaglen Ffotograffiaeth a Ffilm ym Mhrifysgol Glyndŵr Wrecsam: "Rwy'n falch o ddweud ein bod yn parhau i ddatblygu grŵp o fyfyrwyr talentog iawn sy'n mynd ymlaen i gyflawni pethau rhyfeddol a gweithio'n ddiflino i fireinio eu harfer, ac mae Katie yn enghraifft ddisglair o hynny.  

"Llongyfarchiadau mawr i Katie am ei gwobr yn ennill a llwyddiannau diweddar am ei gwaith anhygoel. Mae'n hynod foddhaol gweld un o'n myfyrwyr yn cael cydnabyddiaeth ar nid yn unig ar lefel genedlaethol ond hefyd i ennill gwobr mor fawreddog a hanesyddol o fewn y diwydiant."