Gydnabyddiaeth i fyfyriwr Glyndŵr yn y San Steffan am ei waith cymdeithasol

James Dixon

Llwyddodd myfyriwr Glyndŵr sicrhau gwaith a gwobr genedlaethol ar ôl cyfnod o brofiad gwaith gydag elusen cymorth i garcharorion.

Aeth Jamie Dixon, o Benyffordd, ar leoliad gyda PACT - yr Ymddiriedolaeth Cyngor Gofal Carchar - fel rhan o’i gwrs BA (Anrh) Gwaith Cymdeithasol. Yn ystod ei leoliad 80 diwrnod, gweithiodd Jamie gyda’r carcharorion yn HMP Berwyn i’w paratoi ar gyfer eu diwrnod rhyddhad a bywyd ar ôl carchar.

Meddai Jamie: “Mae’r ymddiriedolaeth yn gweithio gyda phobl sydd ar fin cael eu rhyddhau o’r carchar, i ganfod beth maen nhw eu hangen, ac wedyn yn cwrdd â nhw wrth iddyn nhw adael.

“Roeddwn i’n un o’r bobl oedd yn cwrdd â phobl wrth iddyn nhw adael, ac wedyn eu helpu i drefnu tai, budd-daliadau, bwyd, ymgysylltu gydag adrannau cyngor ac yn y blaen.  Mae’r elusen wedi’i leoli yn swyddfa prawf Wrecsam - a wnes i dreulio llawer o’n hamser yno.”

Ar ôl ei leoliad, cafodd Jamie wybod gan yr elusen ei fod yn un o grŵp dethol o bobl o ledled y DU i dderbyn gwobr gwirfoddoli. Gwahoddwyd Jamie a’r gwirfoddolwyr eraill i gyflwyniad arbennig yn Nhŷ’r Arglwyddi, fel rhan o ddathliad 120 mlynedd o waith PACT.

Meddai: “Ar ôl i mi glywed fy mod i wedi cael fy enwebu am y wobr, cafodd fy nhad a fi ein gwahodd i fynd i’r Senedd, lle cafodd y seremoni ei chynnal. 

“Roedd yn eithaf diddorol a dweud y gwir - aethon ni yna am y diwrnod pan wnaeth Theresa May ymddiswyddo, ac roedd hynna’n ddiddorol i weld yn Nhŷ’r Cyffredin. Nid pawb sy’n cael gweld y fath prosesau yn y Senedd.

“Cawsom ni gyd wobr gan David Gauke - yr Ysgrifennydd Cyfiawnder ar y pryd - ac roedd yn wych i gael fy nghydnabod am fy ngwaith. Mae PACT yn elusen fawr, ac o bawb yn y wlad gallen nhw wedi rhoi gwobr iddyn nhw, wnaethon nhw ddewis dim ond 13 ohonom ni.

Mae Jamie bellach yn gweithio’n rhan amser wrth iddo gwblhau’i hastudiaethau yn Glyndŵr - ac yn edrych ymlaen at ddefnyddio’i radd yn ymarferol ar ôl iddo raddio, a chanfod swydd gwaith cymdeithasol.

Ychwanegodd Jamie: “Ar ôl y profiad gwaith a’r gwobrau, ges i swydd hefo PACT, yn gweithio hefo carcharorion o HMP Berwyn unwaith eto.

“Dyna’r math o faes rydw i eisiau gweithio ynddi ar ôl graddio. Mae fy mam yn weithiwr cymdeithasol, ac roedd dod i Glyndŵr er mwyn astudio i fod yn un hefyd yn teimlo fel y cam nesaf i fi.

“Rydw I’n hoffi gweithio gyda phobl a’u helpu - ac mae hyn yn ffordd o wneud hynny.”

Yn ôl Liz Lefroy, Darlithydd Gwaith Cymdeithasol ym Mhrifysgol Glyndŵr: “Mae disgwyl i bob myfyriwr Gwaith Cymdeithasol Glyndŵr gweithredu’r sgiliau maen nhw’n eu dysgu gyda ni ar leoliad. 

“Mae Jamie’n fyfyriwr cydwybodol a berfformiodd yn rhagorol ar ei leoliad ail flwyddyn. Cafodd cyfle heriol, ac mi atebodd yr her hynny, Rydym yn falch iawn o beth mae o wedi’i gyflawni.

“Bydd cyfle arall i Jamie datblygu ei sgiliau a’i ddealltwriaeth ar leoliad. Rydym yn gweithio’n galed gyda phartneriaid - cynghorau Wrecsam, Sir y Fflint a Sir Dinbych - I ddarparu lleoliadau sydd yn galluogi myfyrwyr i arfer hefo’r rôl gwaith cymdeithasol.”