Heddweision y dyfodol yn helpu’r gwasanaethau brys paratoi am ymosodiad terfysgol

Crime scene tape with police car in background

Cafodd darpar heddweision sydd yn astudio ym Mhrifysgol Glyndŵr Wrecsam cyfle annisgwyl i helpu gweithwyr gwasanaeth brys paratoi ar gyfer ymosodiadau terfysgol. 

Atebodd pedwar myfyriwr Glyndŵr galwad am wirfoddolwyr ar gyfer sesiwn hyfforddi i nyrsys Ysbyty Maelor Wrecsam, a efelychodd ymosodiad terfysgol. 

Aeth Matthew Quirk, Laura Greening, Rebecca Clark and Keryn Hallam i Ganolfan Adnoddau Gwasanaethau Ambiwlans a Thân i bortreadu cleifion gydag amrywiaeth o anafiadau mewn swyddfa sydd yn delio gyda cheiswyr lloches. 

Cafodd y myfyrwyr - a oedd yn portreadu pobl hefo man anafiadau a rhai difrifol - eu trin gan nyrsys trawma brys. Roedd parafeddygon a diffoddwyr tân hefyd yn rhan o’r efelychiad. 

Meddai Rebecca, 24, o Ruthun: “Roedd yn dda i gael helpu a chael ychydig o brofiad o beth mae gwasanaethau brys eraill yn eu gwneud. Roedd yn dda cael mewnwelediad i sut maen nhw’n gweithio mewn amgylchedd o’r fath.” 

Dywedodd Keryn, 18, o Frynteg, ei bod yn brofiad da i weld digwyddiadau o’r fath o safbwynt claf. 

Dywedodd Andrew Crawford, Darlithiwr Plismona Proffesiynol ym Mhrifysgol Glyndŵr Wrecsam ei fod yn “eithriadol o falch” o’r myfyrwyr am wirfoddoli yn ystod eu cyfnod asesu. 

Ychwanegodd: “Pwrpas plismona yw helpu’r gymuned, ac maen nhw wedi ateb yr her. Rwy’n falch iawn ohonynt am wneud hynny. 

“Byddant yn gweithio fel heddweision gyda gwasnaethau health a chymdeithasol felly mae’n gyfle i ryngweithio gyda nhw and os fyddai rhywbeth fel hyn yn digwydd, bydd ganddyn nhw gwell dealltwriaeth o beth mae asiantaethau eraill yn eu gwneud - mae’n brofiad gwerthfawr.”