Hwb cwmni adeiladu i Fyfyriwr Prifysgol Glyndwr Wrecsam

Date: Dydd Mawrth Chwefror 28

Mae myfyriwr o Brifysgol Glyndŵr Wrecsam wedi ymuno gyda chwmni adeiladu o Ogledd Cymru er mwyn gweithio ar ysgol yn y sir.  

Mae Marcio Lanita, myfyriwr Technoleg Dylunio Pensaernïol ail flwyddyn ym Mhrifysgol Glyndwr, wedi bod yn gwneud profiad lleoliad gyda Wynne Construction, ar gynllun gwaith wedi'i ariannu gan y cyhoedd yn Ysgol yr Hafod, yn Johnstown. 

Yn awyddus i ehangu ar ei sgiliau yn dilyn wythnos lwyddiannus o brofiad gwaith gyda'r cwmni ym mis Awst 2022, gofynnodd Marcio am ymestyn ei leoliad ym mis Rhagfyr i adeiladu ar ei brofiad gwaith ymarferol a datblygu ei wybodaeth mewn sgiliau proffesiynol a thechnegol i reoli prosiectau adeiladu/pensaernïol.

O dan oruchwyliaeth Liam Jones, rheolwr safle Wynne Construction, mae Marcio wedi gallu cynorthwyo gyda rheoli'r is-gontractwyr, gan gynnig cyfarwyddiadau a monitro argaeledd a chostau deunyddiau ac offer yn ôl y galw, yn ogystal â chynorthwyo gyda gwaith papur dyddiol y safle ac ychwanegu hyn at system reoli ar y safle.

Esboniodd Liam bwysigrwydd cyfleoedd lleoliad fel rhan o raglen Sefydliad Wynne Futures.

Dywedodd: "Mae Wynne Construction wedi ymrwymo i gynnig profiad gwaith fel agwedd graidd ar ein proses recriwtio a sicrhau ein bod yn ysbrydoli ac yn cefnogi gweithlu'r dyfodol.

"Mae'n hawdd dysgu'r ddamcaniaeth o reoli adeiladu a'r prosesau dan sylw, ond mae dull ymarferol yn cynnig cymaint mwy." 

Mae Marcio yn gwerthfawrogi'r profiad gwaith ymarferol a sut mae'r cyfle hwn yn gwella ei astudiaethau ym Mhrifysgol Glyndwr Wrecsam, ac ychwanegodd: "Mae Wynne Construction yn gwmni adnabyddus sydd â record wych. Rwy'n mwynhau fy hun yn datblygu fy ngyrfa yma yn Wynne, gan feithrin perthynas gyda'r tîm ar y safle.

"Mae cymryd rhan mewn trafodaethau technegol, a bod yn rhan o'r cynnydd ar y safle yn uchafbwynt i mi."

Wrth gyffwrdd â sut mae ei brofiad wedi cefnogi gyda'i astudiaethau, dywedodd Marcio: 
"Mae modiwlau diweddar wedi bod yn berthnasol i'r gwaith yr ydym yn ei gyflawni ar y safle ar hyn o bryd, ac mae modd trafod a defnyddio'r materion yr ydym weithiau'n dod ar eu traws ar y safle fel enghreifftiau yn ystod astudiaethau."

Mae gan Brifysgol Glyndwr Wrecsam hanes  hir o gynnig rhaglenni gradd sy'n cyfuno cyfleoedd Dysgu Cysylltiedig â Gwaith gydag astudiaethau academaidd.

I gymryd rhan mewn cynnal myfyriwr, cysylltwch â'r tîm Dysgu a Menter Gysylltiedig Gwaith ym Mhrifysgol Glyndwr, Wrecsam, ebostiwch: enterprise@glyndwr.ac.uk