Mae gwaith arloesol mudiad sydd wedi dod â phobl ar draws y DU ynghyd i geisio taclo anghydraddoldebau iechyd ar restr fer gwobr genedlaethol bwysig

Professor Claire Taylor and Nina Ruddle

Mae gwaith arloesol mudiad sydd wedi dod â phobl ar draws y DU ynghyd i geisio taclo anghydraddoldebau iechyd ar restr fer gwobr genedlaethol bwysig. 

Mae’r Mudiad 2025 yn bwriadu cael gwared ag anghydraddoldebau iechyd y gellir eu hosgoi erbyn 2025 ac yn cynnwys ystod eang o sefydliadau yng Ngogledd Cymru. Datblygwyd y mudiad fel partneriaeth seiliedig ar le, gan ddefnyddio arweinyddiaeth systems, mae timau bach yn cydweithio i daclo materion anodd, yn cynnwys digartrefedd a thlodi bwyd. 

Mae gwaith y mudiad - sydd eisoes wedi helpu cannoedd o bobl yng Ngwynedd, Ynys Môn, Conwy, Sir Dinbych, Sir y Fflint a Wrecsam - ar y rhestr fer ar gyfer categori Lles Gwobrau Gwasanaethau Cyhoeddus y Guardian, a fydd yn cael eu cyhoeddi ar ddydd Mawrth, 26 Tachwedd. 

Croesawyd y newyddion gan dimau ar draws y sbectrwm eang o sefydliadau sydd yn ffurfio’r mudiad - sydd yn cynnwys Prifysgol Glyndŵr Wrecsam, awdurdodau lleol Gogledd Cymru, cymdeithas tai ClwydAlyn, Tai Gogledd Cymru, Adra, Cartrefi Conwy, Grŵp Cynefin, Tai Wales & West, Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru, nifer o bartneriaethau trydydd sector ac eraill gyda chymorth practis arweinyddiaeth, Do-Well (UK) Ltd. 

Meddai Nina Ruddle, Pennaeth Polisi Cyhoeddus ac Ymgysylltiad ym Mhrifysgol Glyndŵr Wrecsam: “Mae tystiolaeth sydd yn awgrymu y gall ddisgwyliad oes mewn rhannau o Ogledd Cymru fod hyd at 13 mlynedd yn llai nac mewn eraill. 

“Tyfodd y Mudiad 2025 o grŵp bach o bobl a oedd yn flin am yr anghydraddoldeb hynny - ac eisiau newid pethau. 

“Fel prifysgol, rydym wedi bod yn falch o helpu darparu fforwm i’r Mudiad 2025, er mwyn helpu sicrhau rhywfaint o gyllid, a gweld ein staff a myfyrwyr yn cymryd rhan mewn prosiectau a arweiniwyd gan dimau’r mudiad. 

Mae’r mudiad yn dod â grwpiau bach o bobl ynghyd mewn grwpiau a elwir yn dimau “Just Do”, ble maen nhw’n cydweithio ar faterion anodd mewn meysydd penodol. 

Yn Sir y Fflint, gweithiodd timau gyda phreswylwyr llety cysgodol i’w helpu bwyta’n iach diolch i’r Good Food Hub. Dosbarthwyd 800 o brydiau ar draws y sir i daclo ‘newyn gwyliau’ - un o brosiectau mwyaf ei fath yn y DU. Mae ClwydAlyn yn llwyr drawsnewid ei gwasanaeth prydiau yn ei gyfleusterau nyrsio a gofal ychwanegol er mwyn cynyddu cynhwysedd yn y trydydd sector i daclo tlodi bwyd. 

Yng Ngwynedd, aeth tîm i gwrdd â phobl sydd yn cysgu ar y stryd ac wedi helpu chwalu’r rhwystrau roedden nhw’n eu hwynebu wrth gyrchu gwasanaethau iechyd. Gall pobl sydd yn cysgu ar y stryd cyrchu gwasanaethu meddyg teulu, call brechiadau ffliw, canfod ble i gael gofal deintyddol brys a chyrchiad gwell i wasanaethau iechyd meddwl yn y gymuned ac mewn ysbytai. 

Yng Nghonwy a Sir Dinbych, gweithiodd Swyddog Tai a leolir yn uned lem Ysbyty Glan Clwyd i wella amseroedd rhyddhau - yn enwedig o ran materion tai. Mae’r prosiect wedi arbed mwy na 1,200 diwrnod gwely, a allai wedi costio cannoedd o filoedd o bunnoedd i’r bwrdd iechyd. 

Ac mi nodwyd 3,000 cartref bregus yng Ngogledd Cymru ble roedd preswylwyr angen help o ran materion fel tlodi tanwydd, lleithder, cymorth tai a chyngor arian. 

Mae effaith cronnus pob prosiect y Mudiad 2025 wedi cael ei chydnabod ar y rhestr fer.

Meddai Clare Budden, prif weithredwr ClwydAlyn a Chadeirydd 2025: “Rwyf wrth fy modd fod y mudiad ar y rhestr fer i’r wobr fawreddog hwn.

“Rydym yn falch iawn bod ein dull gwaith partneriaeth ac arweinyddiaeth systemau’n cael eu cydnabod fel ffordd lwyddiannus ac arloesol o weithio, ac rydym yn hefyd falch y gallwn ni dangos buddiannau go iawn yn y cymunedau lle’r rydym yn gweithio.” 

Meddai Ken Parry, Prif Weithredwr practis arweinyddiaeth, Dadl: “Mae’r Mudiad 2025 yn arwain y ffordd o ran taclo rhai o faterion mwyaf heriol ein cymdeithas. Niod ydy’n ffordd hawdd o weithio ac roedd angen gwir ymrwymiad gan bob person a sefydliad. Mae dull cydweithio’r timau Just Do yn gyrru dulliau newydd sydd yn gwneud gwahaniaeth go iawn i fywydau pobl mewn nifer o feysydd hanfodol megis tlodi, iechyd meddwl a thai.

"Mae pawb sydd yn rhan o 2025 yn angerddol am roi terfyn i anghydraddoldebau iechyd gellir eu hosgoi yng Ngogledd Cymru ac mae’n wych bod ar y rhestr fer am Wobr Gwasanaethau Cyhoeddus y Guardian mewn cydnabyddiaeth o’r hyn sydd wedi ei chyflawni hyd yma.”

Canfyddwch mwy am Wobrau Gwasanaethau Cyhoeddus y Guardian yma: theguardian.com/society/series/guardian-public-service-awards-2019 and i ganfod mwy am y Mudiad 2025, ewch i 2025movement.org