Mae gwaith Prifysgol Glyndŵr Wrecsam ar y prosiect Cymru Gynnes wedi derbyn clod mewn adroddiad cenedlaethol

Professor Claire Taylor and Nina Ruddle

Mae gwaith Prifysgol Glyndŵr Wrecsam ar y prosiect Cymru Gynnes wedi derbyn clod mewn adroddiad cenedlaethol.

Mae’r brifysgol yn bartner allweddol yn y Mudiad 2025, grŵp arloesol sydd yn bwriadu taclo problemau iechyd y gellir eu hosgoi ac anghydraddoldebau tai yng Ngogledd Cymru erbyn 2025.

Mae’r prosiect Cartrefi Iach, Pobl Iach wedi cynnwys gwaith y brifysgol o fewn y mudiad mewn adroddiad gan Universities UK o’r enw Achubwyr Bywyd y Genedl, sydd yn rhestri'r 100 prifysgol sydd yn gwneud gwaith rhagorol i gadw Prydain yn iach.

Dewiswyd y straeon yn yr addroddiad National Lifesavers i bwysleisio bod gwerth prifysgolion yn ymestyn llawer ymhellach na chyfleoedd addysgol ac effeithiau economaidd man nhw’n eu cynnig.

Staff Iechyd Meddwl a myfyrwyr BSc mewn Lles wedi cynnig gwirfoddoli ar leoliadau gwaith, lle maen nhw ymweld â phobl yn y cartref, lle maen nhw’n cynorthwyo pobl mewn pedwar ffordd - diogelwch personol ac yn y cartref, arbed arian, gwres fforddiadwy a chanlyniadau iechyd a lles.

Dywedodd Ddirprwy Is-Ganghellor, yr Athro Claire Taylor: “Y syniad tu ôl i’r ymweliadau yw annog, addysgu a rhoi grym i bobl. Ar ôl yr ymweliadau, mae’n haws iddynt gymryd rheolaeth, gwneud newidiadau a chael cymorth lle mae angen.

“Mae hyn yn gynllun cymunedol arloesol, lle mae myfyrwyr ac asiantaethau allweddol yn gweithio gyda’i gilydd i wella iechyd a lles ac i daclo anghydraddoldeb iechyd ar lefel rhanbarthol. Mae’n un o sawl ffordd y mae Prifysgol Glyndŵr Wrecsam yn gweithredu yn y rhanbarth fel rhan o’n genhadaeth ddinesig.

Ychwanegodd Jo Seymour, Rheolwr Brosiect i Gymry Cynnes: “Mae’n fendigedig bod y gwaith rydym yn ei gwneud trwy ein prosiect Cartrefi Iach, Pobl Iach wedi cael ei hadnabod. Mae’r prosiect yn defnyddio dull person-ganolog i ateb anghenion, hefo’r bwriad o wella iechyd a lles trwy greu cartrefi sydd yn fforddiadwy, diogel, cynnes a chadarn i bawb. Mae’r gwirfoddolwyr wedi bod yn ychwanegiad gwych, gan ein galluogi i gyrraedd mwy o ddeiliaid y tŷ sydd angen cymorth.”

“Mae ein gweledigaeth, cenhadaeth ac egwyddorion yn cyd-fynd yn wych hefo cenhadaeth ddinesig y brifysgol a gwaith y mudiad 2025. Ar bob ymweliad, rydym eisiau sicrhau ein bod yn ateb gofynion sylfaenol pob preswylydd er mwyn Inni wireddu eu potensial.

“Mae taclo tlodi tanwydd lleihau anghydraddoldebau y gellir eu hosgoi a gweld iechyd a lles i gyd yn gwneud gwahaniaeth. Mae Cymru Gynnes yn ystyried gweithio mewn partneriaeth fel rhywbeth sydd yn annatod i lwyddiant y prosiect and mae’n argoeli’n wych ar gyfer y dyfodol.”

Ychwanegodd yr Athro Taylor: “Rydym wrth ein bodd i gael cydnabyddiaeth fel rhan o ymgyrch Achubwyr Bywyd y Genedl. Mae’r ymgyrch yn dangos sut mae prifysgolion dros y wlad yn nid dim ond yn cael effeithio uniongyrchol ar eu myfyrwyr - ond hefyd ar y gymdeithas ehangach.”

Am fwy o wybodaeth am Achubwyr Bywyd y Genedl - sydd yn rhan o ymgyrch Made at Uni - yma: www.madeatuni.org.uk