Mae PGW yn gwahodd darpar fyfyrwyr i gael blas ar fywyd prifysgol ar y diwrnod agored sydd i ddod 

Open day campus tour

Date: Dydd Mercher Mai 24

Mae darpar fyfyrwyr yn cael eu gwahodd i ddiwrnod agored nesaf Prifysgol Glyndŵr Wrecsam (PGW) i gael blas ar fywyd prifysgol a gweld pa gyrsiau gradd israddedig sydd ar gael i'w hastudio. 

Cynhelir y digwyddiad ddydd Sadwrn 10 Mehefin rhwng 10yb a 2yp, a bydd y digwyddiad yn rhoi cyfle i ddarpar fyfyrwyr siarad â staff a myfyrwyr a darganfod pam fod PGW yn safle 1af yng Nghymru a Lloegr am foddhad myfyrwyr (Canllaw Prifysgolion Cyflawn 2023). 

Trwy gydol y dydd, bydd sgyrsiau pwnc-benodol, teithiau campws a chyflwyniadau ar sut brofiad yw astudio yn PGW, gwneud cais, llety a mwy. 

Meddai Andy Phillips, Pennaeth Recriwtio a Derbyniadau: "Mae ein diwrnodau agored yn ffordd wych o fyfyrwyr posibl i ddarganfod mwy am y cyrsiau sydd gennym i'w cynnig, y cyfleoedd sydd ar gael, a sut beth yw bywyd yma yn PGW. 

"Yn ogystal â'n myfyrwyr cyfeillgar a'n staff academaidd, bydd aelodau o'n timau cymorth, derbyniadau a llety myfyrwyr wrth law hefyd i ateb unrhyw gwestiynau a allai fod gan unrhyw un. 

"Mae cymaint o resymau pam y dylai PGW fod yn brif ddewis i chi o le i astudio - o fod yn safle 1af yng Nghymru a Lloegr am foddhad myfyrwyr, y gefnogaeth unigol rydyn ni'n ei chynnig i'n myfyrwyr i'r gymuned gyfeillgar a bywiog sydd gennym. 

"Mae Wrecsam hefyd yn lle cyffrous iawn i fod ar hyn o bryd, mae cymaint yn digwydd. Felly pam na wnewch chi ddod i weld drosoch eich hun? Archebwch eich lle drwy'r ddolen isod neu galwch heibio a dewch draw ar y diwrnod. Rydym yn edrych ymlaen yn fawr at gwrdd â chi." 

Mae mwy o wybodaeth am ddiwrnodau agored PGW ar gael yma. Gallwch archebu lle ar gyfer y diwrnod agored sydd ar ddod yma.