Mae Prifysgol Glyndŵr Wrecsam yn ddiogel ac yn barod i groesawu myfyrwyr

Bydd myfyrwyr newydd a myfyrwyr sy'n dychwelyd i Brifysgol Glyndŵr Wrecsam yn darganfod campysau sydd wedi'u haddasu i gynnwys amrywiaeth o fesurau diogel Covid-19.


Mae'r newidiadau wedi'u cynllunio i gadw staff, myfyrwyr ac ymwelwyr â'r brifysgol yn ddiogel – tra'n sicrhau hefyd bod y gwasanaeth a'r cyfleoedd rhagorol y mae Glyndŵr yn eu cynnig i fyfyrwyr yn cael eu cynnal.


Meddai Lynda Powell, Cyfarwyddwr Gweithrediadau Prifysgol Glyndŵr Wrecsam: "Fel y byddech yn disgwyl, bu'n rhaid i ni wneud rhai newidiadau i'r ffordd y mae ein campysau'n gweithredu – ond mae'r mesurau wedi'u rhoi ar waith er mwyn i ni allu cadw pawb yn ddiogel.


"Byddwn, wrth gwrs, yn parhau â'n hymrwymiad i ddarparu'r profiad gorau posibl i fyfyrwyr a sicrhau bod ansawdd ein haddysgu yn parhau'n uchel.


"Mae'n rhaid i'n holl staff gwblhau proses ymsefydlu benodol Covid-19 cyn dychwelyd i'r campws, sy'n nodi'r mesurau newydd hyn, y newidiadau y gallant eu disgwyl, a'r camau y mae angen iddynt eu cymryd.


"Rydym hefyd yn gweithio i sicrhau, lle gall staff weithio gartref, eu bod yn cael cymorth i wneud hynny – i helpu i sicrhau bod y bobl iawn ar y campws ac i helpu i gynorthwyo ymbellhau cymdeithasol.


"Rydym wedi bod mewn cysylltiad agos â'n hardaloedd lleol ac Iechyd Cyhoeddus Cymru dros y misoedd diwethaf – a byddwn yn parhau i weithio ochr yn ochr â hwy yn y misoedd i ddod."

 

Ymhlith y newidiadau ffisegol y gall myfyrwyr ddisgwyl eu gweld ar gampws mae:


• coridorau a drysau un ffordd
• defnydd dynodedig ar ddodrefn mewn ystafelloedd dosbarth, neuaddau darlithio, gweithdai a mannau dysgu cymdeithasol
• sgriniau persbec mewn derbynfeydd ac arlwyo
• gorsafoedd glanwestwyr llaw ym mhob mynedfa o amgylch campysau


Bydd cyfleusterau ar y safle, fel y llyfrgell a mannau dysgu cymdeithasol Glyndwr fel Yr Astudfa a'r Oriel, yn agored i bob myfyriwr – p'un a oes ganddynt addysgu wyneb yn wyneb ai peidio.


Mae'r brifysgol wedi'i haddasu i sicrhau bod y defnydd gorau o bob lle ar gampws yn cael ei wneud – a bydd y gwaith hwn yn mynd law yn llaw â Fframwaith Dysgu Gweithredol Glyndŵr, a fydd yn cyfuno cyfleoedd dysgu sy'n gwella'n ddigidol ynghyd â'r defnydd o'r mannau hyn.


"Mae myfyrwyr sydd wedi cofrestru gyda ni wedi derbyn eu hamserlenni nawr ac yn gwybod pryd y byddant yn cael sesiynau ar gampws – a byddant hefyd yn cael eu cefnogi gydag amrywiaeth o gyfleoedd a gweithgarwch dysgu digidol a fydd yn eu helpu i reoli eu hastudiaethau."


Mae Undeb Myfyrwyr Prifysgol Glyndŵr Wrecsam hefyd yn helpu i baratoi myfyrwyr ar gyfer eu dychwelyd – ac ar gyfer amrywiaeth o weithgareddau ar-lein ac wyneb yn wyneb ar gael drwy gydol Wythnos y Glas a fydd yn rhedeg rhwng 28 Medi a Hydref 2.


Mae protocolau wedi'u rhoi ar waith i fyfyrwyr – yn ogystal â staff ac ymwelwyr – eu dilyn ar gampws ac mae pob myfyriwr yn cael ei annog i ddilyn canllawiau iechyd y cyhoedd bob amser, boed ar gampws ai peidio.


Dywedodd Ebony Banks, Llywydd Undeb y Myfyrwyr: "Bydd gweithgareddau'n cael eu cynnal bob dydd yn ystod Wythnos y Glas ac rydym wedi bod yn gweithio'n galed y tu ôl i'r llenni i alluogi myfyrwyr i gymryd rhan mewn digwyddiadau.


"Mae'r rhain yn cynnwys y rhai y gallant ymuno â nhw o ble bynnag y maent yn aros yn ogystal â'n Ffair y Glas, yn dilyn rheolau pellhau cymdeithasol, a gynhelir ar gampws rhwng 10yb a 3yp ar 30 Medi.


"Mae Prifysgol Glyndŵr Wrecsam yn denu myfyrwyr o bob rhan eang o oedrannau a chefndiroedd. Rydym yn gyffrous iawn i groesawu myfyrwyr newydd i'n campysau a gweld hen ffrindiau yn dychwelyd – ac rydym yn disgwyl i'n holl fyfyrwyr gydweithio i gadw eu hunain a'n cymuned ehangach yn ddiogel."


Mae tymor newydd y brifysgol yn Glyndŵr yn dechrau ar 28 Medi ar gyfer myfyrwyr newydd. Mae mannau cyfyngedig ar gael o hyd ar amrywiaeth o gyrsiau israddedig ac ôl-raddedig ac mae amser o hyd i sicrhau eich lle a dechrau eich dyfodol yn Glyndŵr – ewch www.glyndwr.ac.uk i gael rhagor o wybodaeth.