Myfyriwr Glyndŵr yn anelu'n uchel ar ôl ennill gwobr am ei waith ar brosiect drôn

Sean Heuston-Onuora

Mae gyrrwr wagen fforch codi’n dilyn ei freuddwyd o weithio yn niwydiant awyrofod ar ôl ennill gwobr am ei harloesedd a dyfalbarhad.

Enillodd Sean Heuston-Onuora Wobr Prosiect Israddedig Sefydliad Peiriannwr Mecanyddol (IMechE) am ei brosiect blwyddyn olaf ym Mhrifysgol Glyndŵr Wrecsam.

Roedd Sean, 29, yn aelod o dîm o fyfyrwyr a gynrychiolodd y brifysgol yn Sialens System Awyren Ddi-griw (UAS) IMechE yn gynharach eleni.

“Dw i wrth fy modd - wnes i wir mwyhau’r gystadleuaeth and mae’n help mawr o ran rhywbeth i roi ar fy CV hefyd,” meddai.

Rhoddwyd clod i Sean gan y beirniaid am ei gynllun adenydd ysgafn a dyfalbarhad wrth adeiladu a phrofi’r drôn.

Cynlluniodd Sean adenydd amgen i’r drôn gan ddefnyddio ewyn a sbar CFRP gydag aileronau strip, a chododd ei lais dros ei gynllun pan na weithiodd adenydd traddodiadol fel y disgwyliwyd yn ystod y gystadleuaeth.

Derbyniodd Sean dystysgrif a gwobr £100 gan gadeirydd IMEchE John Pollard, a rhoddodd canmoliaeth i Sean am gynnig syniad oedd yn wahanol i’r arfer.

Roedd Sean yn gweithio fel gyrrwr wagen fforch codi yn Lerpwl pan benderfynodd dilyn ei uchelgais am yrfa yn y diwydiant awyrofod trwy wneud cwrs ar-lein ac wedyn sicrhau lle ar gwrs Glyndŵr.

“Pan roeddwn i’n iau roedd i eisiau bod yn beilot, ac roedd diddordeb gen i erioed yn y diwydiant awyrofod,” meddai.

“Roeddwn i’n gwneud rhywbeth doeddwn i ddim eisiau’i gwneud, felly es i ar ôl fy mreuddwydion.”

Mae Sean nawr am astudio gradd Meistr mewn Peirianneg Awyrofod ac yn archwilio cynlluniau ôl-raddedig gyda chwmnïau mawr wrth iddo geisio datblygu gyrfa yn y diwydiant.

Rhoddodd Sean ganmoliaeth fawr i Glyndŵr am ei brofiad wrth astudio yn Wrecsam ac am safon yr addysg a gafodd. 

“Dw i wir wedi mwynhau - mae wedi bod y pedwar blynedd gorau fy mywyd a bod yn onest,” meddai.

Roedd y cyflwyniad yn ddathliad dwbl i Sean, a derbyniodd ei BEng (Anrh) mewn Peirianneg Awyrennol a Mecanyddol yn ystod seremonïau graddio 2019 y brifysgol yn Neuadd William Aston.

Meddai Robert Bolam, Uwch Darlithiwr Peirianneg Prifysgol Glyndŵr Wrecsam: “Roedd cyfraniad Sean yn drawiadol nid yn unig oherwydd safon uchel o sgil technegol sydd ei hangen ar gyfer y gystadleuaeth, ond hefyd ei fod yn dangos brwdfrydedd am awyrennau a’r gallu i gael prosiect trwy’r gystadleuaeth.”