Myfyrwraig Glyndŵr yn cwrso breuddwydd i fod yn athrawes

Vicki Evans outside WGU

Mae dynes am wireddu’i breuddwyd i fod yn athrawes ar ôl ddychwelyd i fyd addysg ym Mhrifysgol Glyndŵr Wrecsam.

Roedd Vicki Evans, o St Martins ger Croesoswallt, yn gweithio fel cynorthwyydd dysgu pan awgrymodd ei rheolwr y dylai hi ddod yn athrawes - ac, ar ôl cwblhau dwy radd yn y brifysgol, mae hi’n gobeithio cael swydd dysgu addysg uwch.

Meddai Vicki: “Mae gen i ddau o blant, ac mae gan un ohonynt anghenion arbennig cymhleth gan fod ganddi epilepsi, a golygodd bu’n rhaid i mi dreulio nifer o flynyddoedd yn sicrhau fod ganddi’r gofal cywir.

“A dweud y gwir roeddwn i angen swydd, a meddyliais y byddai gweithio mewn ysgol yn helpu - fues i’n gweithio fel cynorthwyydd dysgu yn yr ysgol yn St Martins, a wnaeth fy rheolwr linell awgrymu y dylen i fod yn gwneud mwy hefo’n bywyd a wnaeth o’n hannog i fynd i brifysgol.

“I wneud hynny, roedd rhaid i mi gael y cymwysterau - ac yn gyntaf oll, roedd rhaid i mi gael gradd - felly edrychais ar gwrs ar-lein Glyndŵr mewn Astudiaethau Plentyndod. 

“Roedd gwneud y cwrs adre a pharhau i weithio yn St Martins, yn gyfleus iawn i mi.”

Unwaith y gorffennodd ei gradd gyntaf, dychwelodd Vicki i Glyndŵr fel myfyrwraig ôl-raddedig - ac, ar ôl amrywiaeth o leoliadau gwaith, penderfynodd astudio Tystysgrif Addysg Broffesiynol i Raddedigion (TAR). 

Un o’r profiadau newydd cyntaf i Vicki ar y cwrs oedd dod i’r brifysgol i astudio.

Ychwanegodd: “Doeddwn i ddim wedi ymweld â’r brifysgol llawer yn ystod fy ngradd gyntaf - roedd fy seremoni graddio i’r radd Astudiaethau Plentyndod yn o’r amseroedd prin wnes i ddod i’r brifysgol ei hun!

“’Roedd yn daith hir i fi, cael gradd ac wedyn ddod yn ôl i wneud fy TAR, ond roedd o werth yr ymdrech.”

Mae’n rhaid i fyfyrwyr ar gyrsiau TAR sicrhau lleoliadau dysgu fel rhan o’u hastudiaethau - a llwyddodd Vicki i sicrhau lleoliad hir dymor yng Ngholeg Gogledd Sir Amwythig yng Nghroesoswallt. Mae hi’n gobeithio datblygu’i sgiliau ar y lleoliad - ac i sicrhau rôl llawn amser mewn addysg uwch. 

Er roedd Vicki’n bryderus am ddychwelyd i addysg yn ei phedwardegau, roedd astudio ym Mhrifysgol Glyndŵr yn brofiad ysbrydol - ac mae hi’n awyddus i annog eraill i weld sut y gall astudio datblygu eu gyrfaoedd.

“Aeth pethau’n drech na fi braidd y tro cyntaf i mi fod yng ngholeg - ond mae cael swydd mewn addysg ac wedyn dechrau astudio yn Glyndŵr, wedi rhoi hyder i fi gwneud pob dim dw i’n ei gwneud rwan.

“Mae wedi bod yn wych - dw i’n teimlo’n eithaf grymus o ganlyniad ac mae jest yn dangos o bobl sy’n feddwl am ddechreuad newydd eich bod yn gallu cyflawni pethau fel hyn!

“Mae’r tiwtoriaid wedi bod yn wych ac yn gefnogol iawn - pan roeddwn i’n dysgu ar-lein a nawr fy mod i’n dod i Glyndŵr yn gorfforol. Dw i’n mwynhau bod yn fyfyriwr go iawn ac yn gobeithio cael swydd fy mreuddwydion ar ddiwedd y cwrs hefyd.”

Dywedodd Jo Williams, Arweinydd Rhaglen y cwrs TAR: “Mae gwylio datblygiad myfyrwyr fel Vicki - a’u gweld yn datblygu gyrfaoedd newydd - yn un o uchafbwyntiau gweithio yn Glyndŵr. Mae ein myfyrwyr wedi mynd ymlaen i ffynnu mewn bob math o swyddi - ac mae pob amser yn wych i’w gweld!”