Myfyrwraig yn canmol diwrnod agored am roi cychwyn iddi yn y byd academaidd

Sandra

Mae myfyrwraig mae ei hastudiaethau wedi'i hysbrydoli i addysgu eraill am wyddoniaeth wedi canmol diwrnodau agored Prifysgol Glyndŵr Wrecsam am roi troedle iddi yn y byd academaidd.

Penderfynodd Sandra Monica Ferreira Neves,  o Benycae, ddychwelyd i'r Brifysgol ar ôl peidio â chael swydd mewn diwydiant dro ar ôl tro.

Ar ôl cael ei wrthod am swydd lawn amser fel technegydd labordy, penderfynodd ddatblygu ei sgiliau i hybu ei chyfleoedd yn ei dewis yrfa – a daeth i Glyndwr i ddarganfod mwy am ei chyrsiau gwyddoniaeth mewn Diwrnod Agored.

Mwynhaodd hi'r profiad gymaint roedd hi nid yn unig wedi cofrestru ar gyfer gradd – ond daeth yn Llysgennad Myfyrwyr hefyd, gan ysbrydoli darpar fyfyrwyr pan fyddant yn ymweld mewn Diwrnodau Agored.

Meddai Sandra: “Roeddwn i'n gweithio mewn labordy am gyfnod byr ychydig flynyddoedd yn ôl, ar ôl cael y swydd gydag Asiantaeth. Roedden nhw wedi addo swydd lawn amser i mi, ond roedd hi fel petai hyn byth yn mynd i ddigwydd – a dyna pryd dechreuais i feddwl am newid.

“O'r man cychwyn hwnnw, roeddwn i eisiau dod i'r Brifysgol i ddatblygu fy nghymwysterau a gwella fy hun – penderfynais fod yn rhaid i mi ei wneud. Es i i'r coleg a chael rhai pynciau TGAU yno – ac yna des i i Ddiwrnod Agored nesaf Glyndwr i ymchwilio i ddod i'r brifysgol.”

Er ei bod yn nerfus ar y dechrau cyn y diwrnod, pan gyrhaeddodd, cafodd Sandra groeso mawr –ac roedd y staff cyfeillgar yn tawelu ei phryderon.

Meddai: “Pan ddes i i'r Diwrnod Agored, oherwydd yr hyn y mae gen i ddiddordeb ynddo, dechreuais i mewn ystafell yn gwrando ar ddarlith ar gemeg. Yna, rwy'n cofio i lawer o'r staff eraill ar y cwrs ddod i mewn i siarad â ni, ac roedd yn wych i gwrdd â nhw a gweld nad oedden nhw'n bobl i godi ofn arna i – dim ond llawer o bobl neis!

“Dwi'n dod o Bortiwgal, ac fel rhywun sydd ddim yn wreiddiol o Brydain, cyn i'r dydd ddechrau, roedd gen i dipyn o ansicrwydd  – roeddwn yn poeni na fyddai pobl yn fy nerbyn i ac y byddwn yn gweld bod pethau'n anodd. Fodd bynnag, roedd pawb yn y Brifysgol mor groesawgar ac yn gwneud pethau'n hawdd iawn – roedd yr academyddion yn gymwynasgar iawn.”

Ar ôl cofrestru ar gyfer BSc mewn Cemeg gyda Nanotechnoleg Werdd ar ôl ei hymweliad â'r Diwrnod Agored, mae Sandra bellach yn ei hail flwyddyn. Mae hi'n priodoli y cynnydd yn ei hyder - a'i rhwydweithiau i'r Brifysgol.

Ychwanegodd: “Mae'n hawdd iawn i chi gymryd rhan mewn pethau yma gan fod y Brifysgol mor gyfeillgar – ac mae'r holl staff a'r darlithwyr yn gwybod pwy ydych chi hefyd. Rydych chi'n teimlo'n rhan o gymuned yma – nid rhif yn unig ydych chi.

“Mae'r cymorth a gewch chi'n wirioneddol dda ar draws y brifysgol - er enghraifft, fel myfyriwr hŷn, weithiau mae angen rhywfaint o gymorth arnaf gyda thechnoleg newydd – ond mae gweithdai ar gymorth TG, felly mewn cyfnod byr gallwch ddysgu beth sydd angen i chi ei wybod.”

Mae Sandra bellach wedi cael ei hysbrydoli i ystyried gyrfa newydd o ganlyniad i'w hastudiaethau hi – gweithio mewn addysg wyddoniaeth.

Ychwanegodd: “Ar y dechrau, roeddwn i eisiau gwneud gwaith labordy ar ôl i mi raddio - fel y swydd roeddwn i wedi ceisio ei chael. ond, yn ddiweddar rwyf wedi sylweddoli mai un o fy sgiliau yw fy mod yn hoffi delio â phobl ac efallai y byddwn yn hoffi gwneud rhywbeth felly – gan ddefnyddio fy ngradd i addysgu neu i weithio ym maes addysg gwyddoniaeth. Rydw i eisiau ysbrydoli'r genhedlaeth nesaf!”

Fel Llysgennad Myfyrwyr, mae hi nawr yn gyfrifol am gyfarch myfyrwyr posibl yn y Diwrnodau Agored - ac mae'n annog unrhyw un sy'n meddwl am y brifysgol i ddod draw i ddarganfod drostynt eu hunain.

Ychwanegodd: “Wedi'r cyfan, rwy'n credu bod gan Glyndwr lawer o bwyntiau gwerthu da - felly rwyf am ddweud wrth bobl amdanyn nhw!”

Bydd Sandra ymhlith y llysgenhadon myfyrwyr sy'n helpu darpar fyfyrwyr i ddarganfod yr ystod eang o weithgareddau a sgyrsiau pwnc-benodol a mwy sydd ar gael yn Niwrnod Agored Mawrth Prifysgol Wrecsam Glyndŵr.

Mae'r diwrnod – sy'n digwydd o 10am ddydd Sadwrn Mawrth 2 ar draws campysau'r Brifysgol yn Wrecsam a Sir y Fflint – yn cynnig cyfle i ddarpar fyfyrwyr ddysgu mwy am astudio ym Mhrifysgol Glyndwr a chael blas ar fywyd myfyrwyr.

Mae ystod o sesiynau rhyngweithiol, profiadau ymarferol, teithiau a chyflwyniadau ar gael drwy gydol y dydd sy'n cynnwys amrywiaeth eang o bynciau, cyfle i roi cynnig ar ychydig o dechnoleg hynod ddiddorol, a llawer mwy.

Bydd darlithwyr a staff o adrannau ar draws y Brifysgol hefyd wrth law i helpu i roi atebion i gwestiynau-boed y rhain yn ymwneud â chyrsiau, cyllid, gwasanaethau cynhwysiant neu unrhyw beth arall.