Myfyrwyr Dylunio yn creu cylchgrawn newydd i gefnogi gwaith Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru

Graphic Design Students

Date: 20th Mehefin 2022

Mae myfyrwyr dylunio graffig ym Mhrifysgol Glyndŵr Wrecsam (PGW) wedi cydweithio â Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus gogledd Cymru i greu cylchgrawn newydd sy'n canolbwyntio ar lesiant cymunedau'r rhanbarth.

Mae'r cylchgrawn, sef Llesiant, yn dwyn ynghyd rhywfaint o'r data allweddol o asesiadau llesiant y rhanbarth a gynhaliwyd dan arweiniad Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus Wrecsam, Sir y Fflint, Conwy a Sir Ddinbych, a Gwynedd a Môn. Ei nod yw creu darlun o sefyllfa lesiant cymunedau gogledd Cymru ar hyn o bryd a chefnogi cynllunio llesiant er mwyn gwella hyn ar gyfer y dyfodol.

Bob pum mlynedd, mae'n rhaid i Fyrddau Gwasanaethau Cyhoeddus, o dan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol, asesu llesiant eu hardal a chynnal asesiad llesiant a ddefnyddir fel sylfaen i ddatblygu cynllun llesiant yr ardal honno. Mae'r cynllun hwnnw'n disgrifio sut y bydd cyrff cyhoeddus yn cydweithio i wella a chyfoethogi llesiant cymunedol.

Yng ngogledd Cymru, mae'r asesiadau hyn wedi cael eu datblygu drwy gydweithio'n agos â chymunedau er mwyn dod i ddeall beth sy'n wirioneddol bwysig i bobl leol. Mae'r gwaith hwn ar y cyd â myfyrwyr PGW yn ceisio adeiladu ar y dull hwn drwy annog y myfyrwyr i astudio a dehongli'r data er mwyn cynhyrchu adnodd arloesol a chreadigol y gall y Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus ei ddefnyddio i barhau i annog cymunedau a chyrff cyhoeddus i ddeall blaenoriaethau llesiant y rhanbarth, a gweithredu arnynt.

Dyma ddywedodd Nina Ruddle, Pennaeth Ymgysylltu a Pholisi Cyhoeddus yn PGW, sydd wedi cefnogi'r gwaith hwn fel rhan allweddol o Strategaeth Partneriaethau Cenhadaeth Ddinesig y Brifysgol: "Mae'r cydweithio hwn rhwng myfyrwyr PGW a'r Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus unwaith eto'n dangos sut rydyn ni'n gwneud pethau'n wahanol yng ngogledd Cymru ac yn gweithredu yn ôl ethos Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol i gael effaith hirdymor a chynaliadwy ar ganlyniadau llesiant, drwy weithio mewn ffordd wahanol.

"Rydyn ni'n falch iawn o fod wedi cefnogi a galluogi'r dull hwn drwy ein hymrwymiad o dan ein cenhadaeth ddinesig i roi diwedd ar anghydraddoldeb cymdeithasol yng ngogledd Cymru, yn ogystal â chael arddangos doniau a sgiliau creadigol ein myfyrwyr dylunio."

Dywedodd Adam Skinner, myfyriwr Dylunio yn PGW sy'n dod o Sir y Fflint, a weithiodd ar y cylchgrawn Llesiant: "Mae hwn wedi bod yn brosiect gwych i weithio arno. Mae cyfryngau gweledol yn ffordd ragorol o gysylltu â phobl a helpu i ddod â'r data'n fyw. Mae hynny wedi bod yn bwysig iawn i ni wrth ddylunio Llesiant. Roedden ni'n awyddus i dynnu sylw at y pethau cadarnhaol - pethau sy'n mynd yn dda, yn ogystal â'r pethau y mae angen i bobl roi ystyriaeth iddyn nhw."

Dywedodd Michael Cantwell, sy'n gweithio gyda Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Wrecsam ar ran Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam: "Roedd gweithio gyda myfyrwyr Dylunio talentog Glyndŵr yn brofiad gwych - maen nhw wedi creu fformat sy'n dod â'r data llesiant yn fyw mewn ffordd fedrus ac sydd hefyd yn ddarn o gelfyddyd."