Nyrsys uchelgeisiol yn cael eu gwahodd i fynd i nosweithiau agored Wrecsam a Llanelwy

Plas coch entrance

Date: Dydd Mawrth Chwefror 7

Mae Prifysgol Glyndŵr Wrecsam yn gwahodd pobl sydd â diddordeb mewn gyrfa nyrsio ynghyd â nosweithiau agored sydd ar ddod yn eu campysau Wrecsam a Llanelwy. 

Bydd y digwyddiadau wyneb yn wyneb, a gynhelir ddydd Mercher, 15 Chwefror ar y ddau gampws rhwng 3.30yp a 7yh, yn gyfle da i'r rhai sy'n ceisio astudio Nyrsio gael sgwrs gyda darlithwyr a myfyrwyr presennol ynghylch y cyrsiau sydd ar gael, rhagolygon gyrfa yn y dyfodol a bywyd myfyrwyr. 

Entrance of the St Asaph campus of Wrexham Glyndwr University

Bydd cyfle hefyd i'r rhai sy'n dod draw i gael taith o'r cyfleusterau sydd ar gael i fyfyrwyr. 

Mae cyrsiau nyrsio sydd ar gael yn y ddau gampws yn cynnwys graddau mewn Nyrsio Oedolion, Nyrsio Plant a Nyrsio Iechyd Meddwl. 

Dywedodd Chris O'Grady, Prif Ddarlithydd ac Arweinydd Nyrsio Proffesiynol ar gampws Wrecsam: "Os ydych yn edrych i astudio nyrsio, byddem wrth ein bodd yn eich croesawu i'r digwyddiadau eraill sy'n cael eu cynnal ar y noson agored a gyhelir ar ein campysau yn Wrecsam a Llanelwy. 

"Mae gennym rai llefydd ar gael o hyd ar gyfer ein cymeriant mis Mawrth yn y ddau gampws, felly teimlwch ei fod yn gyfle da i ddangos beth allwn ni gynnig darpar Nyrsys." 

Dywedodd Karen Griffiths, sydd hefyd yn Brif Ddarlithydd ac yn Arweinydd Proffesiynol mewn Nyrsio ar gampws Wrecsam: "Rydym yn hynod falch bod ein cyrsiau Nyrsio ar y brig yn gyntaf am foddhad myfyrwyr yng Nghymru a Lloegr, felly byddem wrth ein bodd i ddarpar fyfyrwyr Nyrsio glywed popeth am yr hyn y gallwn ei gynnig iddynt." 

Ychwanegodd Alison Lester-Owen, Prif Ddarlithydd ac Arweinydd Proffesiynol mewn Nyrsio ar gampws Llanelwy: "Rydym yn gwybod bod llawer o bethau i'w hystyried pan wrth ddewis ble yr hoffech chi astudio. Mae ein digwyddiadau agored yn gyfle gwych i gwrdd â darlithwyr a myfyrwyr presennol, yn ogystal ag ateb unrhyw gwestiynau sydd gennych. 

"Archebwch eich lle drwy'r ffurflen archebu ar-lein sydd wedi ei gysylltu isod neu os oes gennych unrhyw gwestiynau, cysylltwch â ni. Gallwch hefyd jyst popio i mewn a throi fyny ar y diwrnod. Rydym yn edrych ymlaen at groesawu darpar nyrsys y dyfodol ac arddangos ein cyrsiau o ansawdd uchel." 

Cynhelir y digwyddiad ar y ddau gampws – dim ond drwy'r ffurflen ar-lein y bydd angen i chi ddewis y campws yr ydych am ei fynychu drwy'r ffurflen ar-lein yma.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau cyn y digwyddiad, ffoniwch: 01978 293439 neu e-bostiwch:enquiries@glyndwr.ac.uk

DIWEDD 

Nodiadau i'r golygydd: 
 

  • Mi restrodd Canllaw Prifysgolion Cyflawn (CUG) Prifysgol Glyndŵr Wrecsam yn gyntaf am foddhad myfyrwyr yng Nghymru a Lloegr, ac yn ail yn y DU gyfan, yn ei dabl yn 2023 – gyda Nyrsio hefyd yn y safle cyntaf am fodlonrwydd myfyrwyr.