Offer newydd yn helpu gweithwyr proffesiynol gofal iechyd hogi eu sgiliau yn Glyndŵr

Advanced Clinical Practice equipment

Mae gweithwyr gofal iechyd proffesiynol yn mireinio eu sgiliau ym Mhrifysgol Glyndŵr Wrecsam gyda’r offer hyfforddi diweddaraf o ganlyniad i hwb ariannol sylweddol.

Mae myfyrwyr cwrs MSC Ymarfer Clinigol Uwch yn PGW yn hogi eu sgiliau archwilio gydag offer a ariennir gan grant £250,000 Addysg Iechyd Cymru. 

Mae’r cyllid hefyd yn cynnwys adnewyddiadau i gyfleusterau a ddefnyddir gan y myfyrwyr MSc, hyfforddiant a gwisgoedd gwaith i staff, yn ogystal â rhaglen digideiddio TG. 

Esboniodd Gilly Scott, Cyd-arweinydd Rhaglen Ymarfer Glinigol Uwch, pam bod cyllid mor bwysig i gynnydd myfyrwyr.

“Mae’n hollol wych oherwydd rydym eisiau cynnig addysg yr 21ain ganrif I I fyfyrwyr gan ddefnyddio gwahanol ddulliau addysgu ac mae addysg sydd yn seiliedig ar efelychiadau yn ffordd dda iawn o ddarparu dysgu dwys.”

Mae cymysgedd o fyfyrwyr yn cynnwys parafeddygon, fferyllwyr, ffisiotherapyddion a nyrsys yn defnyddio’r offer i ymarfer archwiliadau abdomenol, calon, ysgyfant a niwrolegol. Maen nhw wedyn yn cael eu harholi yn Glyndŵr a hefyd gan eu mentoriaid gwaith.

Meddai Gilly: “Mae addysg yn seiliedig ar efelychiad yn bwysig iawn oherwydd ei bod yn galluogi iddyn nhw ymarfer mewn amgylchedd diogel, felly mae’n bwysig iawn eu bod nhw’n gwneud llawer o weithgareddau fel hyn trwy gydol y rhaglen.”

Mae Kerry Hooton, o Fae Kinmel, yn nyrs meddyg teulu sydd â chefndir llawfeddygol, fasgwlaidd ac mewn unedau therapi dwys.

“Mae’n dda ar gyfer archwiliad clinigol. Yn eithaf aml byddwch yn eistedd gyda chlinigwyr a byddan nhw’n gwneud yr hanes, byddan nhw’n gwneud yr ymgynghoriad llawn ond chewch chi ddim profiad ymarferol felly mae’n werthfawr iawn.” 

Dywedodd Amanda Price, nyrs clinigol sy’n arbenigo mewn gofal lliniarol yn ysbyty Maelor Wrecsam, y byddai’r offer newydd yn galluogi’r myfyrwyr i ddarparu gwasanaeth gwell i gleifion.

Ychwanegodd: “Rwy’n mwynhau’r cwrs yn fawr iawn - mae’n waith called ond yn addysgiadol ac rydych yn cael llawer o brofiad ymarferol yn y gwaith ac yn y dosbarth.”