Penodi academydd o PGW i gorff gwaith ieuenctid llywodraeth Cymru

simon stewart headshot

Date: Hydref 26 2022

Mae academydd o Brifysgol Glyndŵr Wrecsam wedi ei phenodi i un o fyrddau Llywodraeth Cymru sydd â'r nod o sicrhau lleisiau pobl ifanc yn cael eu clywed. 

Mae Dr Simon Stewart, Deon y Gyfadran Gwyddorau Cymdeithasol a Bywyd yn PGW, wedi'i benodi'n Fwrdd Gweithredu Strategaeth Gwaith Ieuenctid Llywodraeth Cymru. 

Dywedodd: "Mae gwaith y Bwrdd Gweithredu Strategaeth Gwaith Ieuenctid o bwys sylweddol i Gymru, mae'r ymrwymiad a wnaed gan Lywodraeth Cymru i weithredu argymhellion y Bwrdd Gwaith Ieuenctid Dros Dro yn sefydlu cadarnder diben tuag at sicrhau model cyflawni cynaliadwy ar gyfer Gwaith Ieuenctid yng Nghymru.

Mae hwn yn foment arloesol ar gyfer Gwaith Ieuenctid yng Nghymru, ac yn un fydd yn cefnogi gwasanaethau i wasanaethu pobl ifanc ein cymunedau yn gyson ledled y wlad." 

Mae Jeremy Miles, Gweinidog y Gymraeg ac Addysg wedi gwneud naw apwyntiad i'r Bwrdd, fydd yn allweddol wrth ddatblygu'r argymhellion sydd wedi'u cynnwys o fewn adroddiad y Bwrdd Gwaith Ieuenctid Dros Dro, Sicrhau Model Cyflawni Cynaliadwy ar gyfer Gwaith Ieuenctid yng Nghymru.

Ychwanegodd Mr Miles: “Bydd y Bwrdd yn gweithio’n agos gyda phobl ifanc drwy gydol ei ddeiliadaeth er mwyn sicrhau bod lleisiau pobl ifanc yn ganolog i’w waith, gan gyd-fynd â’m hymrwymiad i sicrhau osod hawliau plant mewn lle canolog yn ein holl ddiwygiadau. 

Bydd cyd-gadeiryddion y Pwyllgor Pobl Ifanc yn ymuno â chyfarfodydd Bwrdd i gynrychioli barn y pwyllgor ehangach yn uniongyrchol, a bydd ymgysylltiad ychwanegol wedi'i dargedu gyda charfannau ehangach o bobl ifanc. 

Ychwanegodd Dr Stewart: "Mae pwysigrwydd gwaith ieuenctid wedi bod yng nghysgod y ddarpariaeth gwasanaeth ers amser maith, ond mae gwaith blaenorol y Bwrdd Gwaith Ieuenctid Dros Dro, a Jeremy Miles yn cydnabod bod 'Gwaith Ieuenctid yn un o'n dulliau mwyaf pwerus ar gyfer cefnogi pobl ifanc i gyflawni eu potensial ac i fyw bywydau gwerth chweil', yn dyrchafu proffil sector hanfodol ymhellach."

Gweler Datganiad Ysgrifenedig Jeremy Miles am fwy o wybodaeth.