Prifysgol Glyndŵr Wrecsam yw cefnogwr diweddaraf siarter sydd yn cefnogi pobl gydag afiechydon prin.

Mae PGW yn cefnogi Siarter Rare Aware, a drefnwyd gan Same But Different – sefydliad ddim er elw yn y Wyddgrug. Mae’r siarter yn un o sawl ffordd y mae Same But Different, sydd yn cefnogi pobl gydag afiechydon ac anableddau prin, yn gweithio i godi ymwybyddiaeth o afiechydon prin a’r bobl sydd yn byw gyda nhw.

Mae pob sefydliad sydd yn arwyddo’r siarter yn gwneud ymrwymiad i bum fesur diwydiant a gynullir i greu awyrgylch gwaith cefnogol i weithwyr – os oes ganddyn nhw neu berthynas agos afiechyd prin.

Wnaeth yr Athro Claire Taylor, Is-Ganghellor Prifysgol Glyndŵr Wrecsam, â Chyfarwyddwr Same But Different Ceridwen Hughes a Rheolwr Prosiect Gill Rock mewn arddangosfa ffotograffiaeth yn y brifysgol. Clywodd Claire mwy am waith y sefydliad a chadarnhaodd ymrwymiad y brifysgol i’r siarter.

Cynhaliwyd yr arddangosfa – casgliad o luniau’n croniclo bywydau pob gydag afiechydon prin – ar gampws Plas Coch y brifysgol; un o ddysenni mae Same But Different wedi’u cynnal ar draws y DU fel rhan o’i hymgyrch codi ymwybyddiaeth.

Meddai’r Athro Taylor: “Mae’r Brifysgol yn falch iawn i arwyddo Siarter Rare Aware.

“Mae’n wirioneddol bwysig ein bod ni fel cyflogwr yn cydnabod a chefnogi staff gydag afiechyd prin neu’n gofalu am aelod teulu agos.

“Byddwn yn annog unrhyw sefydliadau i gefnogi Same But Different a bod yn Gyflogwr Rare Aware.”

Ychwanegodd Ceridwen Hughes: “Mae’n fendigedig fod Prifysgol Glyndŵr Wrecsam yn barod i wneud yr ymrwymiad hwn i gefnogi eu staff.

“Mae derbyn diagnosis, neu aelod teulu prin , effaith anferth ar deuluoedd. Bydd gwybod bod ganddynt gefnogaeth eu cyflogwr yn gwneud gwahaniaeth anferth.

“Gan fod 1 o bob 17 person yn y DU afiechyd prin, mae’n bwysig bod sefydliadau’n barod i wneud yr ymrwymiad hwn”

I ddysgu mey am Siarter Rare Aware a sut gall sefydliadau arwyddo’r siarter, cliciwch yma neu e-bostiwch  enquiries@samebutdifferentcic.org.uk.