PGW yn dathlu cynnydd cyflym yn nhablau cynghrair Canllaw Prifysgolion y Guardian

Wrexham Glyndwr University building in the sun

Date: 13/9/21

Mae staff a myfyrwyr Glyndŵr yn dathlu dringo'r brifysgol o fwy na 40 o leoedd i fyny tabl cynghrair The Guardian University Guide.

Mae'r papur newydd cenedlaethol newydd gyhoeddi ei Ganllaw Prifysgol blynyddol ar gyfer 2022, gyda Prifysgol Glyndŵr Wrecsam yn codi 41 lle anhygoel, o'r 107fed yn gyffredinol yn y DU y llynedd, i'r 66ain eleni.

Sgoriodd Glyndŵr yn uchel am foddhad gydag addysgu ac adborth, gan ennill sgôr gyffredinol o 65.3. 

Wrth lunio'r Canllaw, caiff prifysgolion eu mesur ar draws naw categori sy'n amrywio o addysgu da i ragolygon swyddi i fyfyrwyr. Eleni mae'r Canllaw wedi ychwanegu canlyniadau arolwg 2020 a 2021 at ei gilydd i adlewyrchu ymateb pandemig y prifysgolion a'u perfformiad mewn blwyddyn arferol.

Mae'r cynnydd enfawr yn safleoedd yn dilyn haf gwych i PGW a welodd y brifysgol ar ei huchaf yn y DU am Nyrsio Oedolion am foddhad cyffredinol myfyrwyr yn yr Arolwg Cenedlaethol o Fyfyrwyr (ACL) eleni. 

Llwyddodd y Brifysgol hefyd i ennill tendr Addysg a Gwella Iechyd Cymru (AaGIC) i lansio llu cyffrous o gyrsiau Nyrsio ac Ymarferwyr Perthynol i Iechyd newydd. 

Mae Is-Ganghellor Prifysgol Glyndŵr Wrecsam, yr Athro Maria Hinfelaar, wedi llongyfarch pawb yn y Brifysgol am helpu i gyflawni'r safle diweddaraf hwn a'r marc cynnydd. 

Meddai: "Y sbardun allweddol y tu ôl i'r gwelliant ysblennydd hwn yw'r Arolwg Cenedlaethol o Fyfyrwyr yn ddiweddar lle'r oeddem yn perfformio'n well na chyfartaleddau'r sector ar y tri metrig NSS sy'n ymddangos yn y fethodoleg a ddefnyddiwyd gan The Guardian: 'boddhad cyffredinol', 'yr addysgu ar fy nghwrs' ac 'asesu ac adborth'. 

"Mae hwn yn gyflawniad gwych ac mae ein holl staff academaidd a phroffesiynol, ynghyd ag Undeb y Myfyrwyr, yn haeddu clod enfawr am y canlyniad hwn."  

Gweld tabl cynghrair llawn y Canllaw Prifysgolion y Guardian 2022.

Edrychwch ar y cyrsiau israddedig sydd ar gael ym Mhrifysgol Glyndŵr Wrecsam.