Prifysgol Glyndŵr Wrecsam y cyntaf yng Nghymru i atal recriwtio gan gwmnïau tanwydd ffosil

Outdoor space on campus

Date: 1 Rhagfyr 2022

Mae Prifysgol Glyndŵr Wrecsam wedi cymryd camau i gefnogi gweithlu cynaliadwy ar gyfer y dyfodol drwy fod y cyntaf o brifysgolion Cymru i atal recriwtio gan gwmnïau tanwydd ffosil ar ei champysau.

Mae’r sefydliad, sydd yn gwasanaethu cyfanswm o 7,500 o fyfyrwyr ar draws ei dri champws yng Ngogledd Cymru, wedi mabwysiadu Polisi Gyrfaoedd Moesegol sy’n datgan “na fydd yn cynnal perthynas o unrhyw fath â chwmnïau olew, nwy neu fwyngloddio fel rhan o’i hymrwymiad i gynyddu cynaladwyedd a mynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd.”

Mae’r brifysgol wedi dweud bod ei Gwasanaeth Gyrfaoedd a Chyflogadwyedd yn ceisio hwyluso cydweithrediad sy’n cyfrannu at wella cymdeithas a’r amgylchedd.

Dywed Lynda Powell, Cyfarwyddwr Gweithrediadau ym Mhrifysgol Glyndŵr: “Fel rhan o’n strategaeth cynaladwyedd amgylcheddol parhaus, mae Prifysgol Glyndŵr Wrecsam yn ymdrechu i wella ein perfformiad amgylcheddol ac yn gweithio i ddarparu addysg ar ddatblygu cynaliadwy i’n holl fyfyrwyr.

“Mae ein Polisi Gyrfaoedd Moesegol yn allweddol i sicrhau bod myfyrwyr y brifysgol yn derbyn cyfleoedd i fyfyrio, deall a mynegi eu gwerthoedd eu hunain. Mae hyn yn rhoi hyder i raddedigion alinio eu hunain â sefydliadau a mudiadau y mae eu gwerthoedd yn cyd-fynd â’u gwerthoedd nhw.

“Gyda llawer o sefydliadau sy’n recriwtio myfyrwyr graddedig yn mabwysiadu proses ddethol sy’n seiliedig ar werthoedd, mae’r ymagwedd sydd wedi ei mabwysiadu yma yn cefnogi cenedlaethau’r dyfodol i wneud penderfyniadau ystyrlon ynglŷn â’u gyrfaoedd, er mwyn sicrhau cyflogaeth sy’n briodol ac ystyrlon.

“Drwy hyn, rydym yn cefnogi datblygiad gweithlu cynaliadwy i’r dyfodol, ynghyd â chymryd camau uchelgeisiol i gyflawni targed Llywodraeth Cymru o Sero Net ar gyfer y sector cyhoeddus erbyn 2030.”

Mae’r brifysgol yn un o bedair prifysgol sydd wedi dod â recriwtio gan gwmnïau tanwydd ffosil i ben ar eu campysau - y tair prifysgol arall yw Birkbeck, Prifysgol Llundain, Prifysgol Swydd Bedford; a Phrifysgol y Celfyddydau, Llundain.

Mae’r ymgyrch, sy’n cael ei chydlynu gan yr elusen ymgyrchu People & Planet, a arweinir gan fyfyrwyr, yn rhoi pwysau ar wasanaethau gyrfaoedd mewn prifysgolion i dorri’r cysylltiad â diwydiannau olew, nwy a mwyngloddio, ar sail materion hinsawdd a hawliau dynol, ac mewn undod â chymunedau sydd yn cael ei heffeithio fwyaf gan gloddio am danwydd ffosil.

Mae Gyrfaoedd Di-Ffosil yn derbyn cefnogaeth staff a myfyrwyr, gan dderbyn cymeradwyaeth swyddogol gan y ddau gorff myfyrwyr a staff mwyaf y DU, Undeb Cenedlaethol y Myfyrwyr (NUS) ac Undeb Prifysgolion a Cholegau (UCU).

Ychwanegodd J Clarke, Cyd-gyfarwyddwr Ymgyrchoedd Hinsawdd Planet & People: “Dylid cydnabod Prifysgol Glyndŵr Wrecsam, ac yn haeddiannol felly, am arwain ar yr hinsawdd ymysg sefydliadau addysg uwch Cymru.

“Mae bod y cyntaf i fabwysiadu Gyrfaoedd Di-Ffosil yng Nghymru yn gosod cynsail cryf yn sector prifysgol y genedl, ac rydym yn gobeithio y bydd llawer mwy yn dilyn. Mae’n hanfodol bod ein prifysgolion yn dangos drwy weithredu, nid Geiriau, eu bod yn ochri gyda chyfiawnder hinsawdd, ac nid y cwmnïau sy’n ein gyrru’n ddyfnach i argyfwng hinsawdd sydd yn niweidio’n gyntaf ac yn waethaf oll y rhai hynny sydd leiaf cyfrifol.”