Prifysgol Glyndŵr Wrecsam yn codi 45 safle yng Ngwobrau Whatuni

Students on laptops studying outside

Mae Prifysgol Glyndŵr Wrecsam wedi codi 45 safle yng nghategori Prifysgol y Flwyddyn y Whatuni Student Choice Awards - yn ymuno a’r 100 uchaf yn y Deyrnas Unedig.

Mae’r brifysgol yn 68ain yn gyffredinol yn y DU a hefyd yn yr ugain uchaf o ran ei chyrsiau a darlithwyr - ar ôl codi i’r 11eg safle yn y categori hwnnw.

Yn gyfan gwbl, mae Glyndŵr hefyd wedi dringo’r tablau cynghrair ar gyfer Rhagolygon Swyddi, Undeb y Myfyrwyr, Cymorth i Fyfyrwyr a Chlybiau a Chymdeithasau.

Disgrifir y gwobrau fel ‘ddathliad blynyddol o brifysgolion a sefydliadau addysg uwch orau’r DU.’

Mae fwy na 41,000 myfyriwr yn pleidleisio ar draws y wlad.

Dywedodd Is-ganghellor Prifysgol Glyndŵr Wrecsam, yr Athro Maria Hinfelaar: “Mae’r brifysgol yn ymroddedig i fod yn sefydliad myfyriwr-ganolog, ac mae’r gwobrau hyn, sydd o dan arweiniad myfyrwyr, yn adlewyrchu hynny.

“Mae’n ardderchog i weld y gwaith rydym ni wedi gwneud ar ein cyrsiau’n cael ei hadlewyrchu yn sgoriau’r myfyrwyr, gyda’r brifysgol yn ugain uchaf y DU o ran cyrsiau a darlithwyr.

“Rwyf wrth fy modd, hefyd, i weld y brifysgol yn codi gymaint o safleoedd i fod yn un o 100 sefydliad uchaf y DU.

“Wrth gwrs, rydym yn bwriadu adeiladu ar lwyddiant eleni – rydym wedi bod ar waith yn trawsnewid y brifysgol am gwpl o flynyddoedd ac mae’r gwaith hwnnw’n parhau.

“Rydym yn parhau i wella safonau dysgu ac ymchwil, ac rydym yn gweld mwy a mwy o gyflawniadau rhyfeddol gan ein graddedigion.

“Mae’r brifysgol eisoes wedi cyhoeddi nifer o welliannau myfyriwr-ganolog yn ein rhaglen adnewyddu stadau uchelgeisiol, Campws 2025, sydd yn cynnwys llefydd dysgu cymdeithasol arloesol.

“Rydym yn bendant y bydd y gwaith yn parhau - hefo cynlluniau mawr ar gyfer campysau Wrecsam i fynd o flaen cynghorwyr yn hwyrach yn y flwyddyn.”

Am fwy o wybodaeth am y Whatuni Student Choice Awards, cliciwch yma.