Prifysgol Glyndŵr Wrecsam yn codi mewn rhestr amgylcheddol

Green spaces on campus

Mae Prifysgol Glyndŵr Wrecsam ymysg traean uchaf brifysgolion Prydeinig mewn rhestr werdd a gyhoeddwyd heddiw.

Y Gynghrair Prifysgol Pobl a Phlaned ydi’r unig un o’i fath ac yn archwilio perfformiad amgylcheddol, moesol a chynaliadwy pob prifysgol yn y DU. Mae tîm Pobl a Phlaned yn mesur popeth o bolisïau lleihau carbon i fesurau lleihau defnydd dŵr, ac wedi graddio 154 prifysgol yn y DU.

Mae Prifysgol Glyndŵr Wrecsam yn safle 47 yn y gynghrair newydd, gwelliant 36 safle ers i’r ffigyrau diwethaf gael eu cyhoeddi ym 2017.

Meddai Lynda Powell, Cyfarwyddwraig Gweithrediadau Prifysgol Glyndŵr Wrecsam: “Rydym wrth ein bodd o godi mwy na 30 safle yng Nghynghrair Prifysgol Pobl a Phlaned newydd. Daw’r cyflawniad ar ôl naid sylweddol yng nghynghrair 2017 - ac yn golygu rydym nawr ymysg traean uchaf prifysgolion y DU am ein gwaith ar faterion amgylcheddol a chynaladwyedd

“Mae Prifysgol Glyndŵr yn ymrwymedig i ddeall a rheoli ein heffaith ar yr amgylchedd. Mae gennym ‘pencampwyr gwyrdd’ sydd yn ceisio gwneud pawb yn fwy ymwybodol o’r amgylchedd.

“Gall hyn fod yn rhywbeth fel ceisio cadw ein hamgylchedd lleol yn lân a thaclus wrth godi sbwriel a phlannu prysgwydd, neu brosiectau mawr fel system arbed egni newydd a gwella cyfleusterau ailgylchu.

“Fel prifysgol, rydym yn un o ychydig iawn yn y DU sudd wedi ymrwymo y bydd unrhyw fuddsoddiadau yn y sector egni mewn cwmnïau neu gronfeydd carbon isel.

“Rydym hefyd yn cynnwys detholiad o welliannau amgylcheddol a chynaliadwy ein rhaglen adnewyddu ystadau, Campws 2025. 

“Gyrrwyd Campws 2025 nid yn unig gan ein dymuniad i ddarparu amgylchedd dysgu deniadol, ond hefyd gan ein cydnabyddiaeth bod yna achos amgylcheddol cryf ar gyfer adnewyddu ein hystâd gyfan.

“Unwaith y bydd y gwelliannau wedi’u cwblhau, byddwn yn gobeithio gweld gwelliannau pellach o ran effaith amgylcheddol a chynaladwyedd.”