Prifysgol Glyndŵr Wrecsam yn cynnal ddigwyddiad Dydd Miwsig Cymru

Welsh flag on campus

Mae Prifysgol Glyndŵr Wrecsam yn dathlu Dydd Miwsig Cymru ar 7 Chwefror gyda digwyddiad cymunedol yng nghampws Plas Coch.

Cynhelir amrywiaeth o berfformiadau, yn cynnwys sioeau gan grŵp pop lleol The Gogs, yr act hip hop Eight Star Music a chôr y brifysgol. Bydd bwyty’r campws, Cegin Unedig, yn cynnig bwydlen ar thema Gymraeg yn cynnwys caws ar dost a chawl, a bydd cacenni Gymraeg ar gael yng nghaffis y campws.

Bydd gan busnesau lleol yn cynnwys Piccolas Crafts and Gifts, Billies Jewellery, Live Green with Rosadonna a Frizzing Fragrances stondinau yn y digwydd, yn cynnwys amrywiaeth o gynnyrch i’w pori.

Meddai Elen Mai Nefydd, Pencampwraig yr Iaith Gymraeg Prifysgol Glyndŵr Wrecsam: “Rydyn ni'n edrych ymlaen yn arw at gynnal ein digwyddiad cenedlaethol cyntaf ar gyfer diwrnod cerddoriaeth Cymru ac rydyn ni'n falch iawn o groesawu'r gymuned leol i'r Brifysgol i ddathlu gyda ni.

"Mae 'na rywbeth i bawb gyda chymysgedd o gerddoriaeth pop, hip hop a cherddoriaeth draddodiadol Gymreig yn cael ei pherfformio ynghyd â chyfle i ganu ynghyd â'n côr o Brifysgol Glyndwr Wrecsam. Mae gennym hefyd amrywiaeth o stondinwyr yn arddangos eu cynnyrch ac mae bwydlen blasus ar thema Cymraeg ar gael drwy gydol y dydd."

Cynhelir y digwyddiad o 11.30yb – 2yp a chynhelir y perfformiad cyntaf yn Yr Oriel am 11.30yb. Bydd y perfformiadau yn cael eu gwneud bob 30 munud. Bydd y stondinau yn y dderbynfa drwy gydol y digwyddiad.