Prifysgol Glyndŵr Wrecsam yn ymuno â sefydliadau ar draws y DU i gefnogi Adduned Busnes Covid-19

Mae Prifysgol Glyndŵr Wrecsam wedi ymuno â busnesau ar draws y DU gan wneud adduned i helpu Prydain a’i dinasyddion mwyaf agored i niwed i ddod drwy’r argyfwng coronafeirws.

Mae ymhlith prifysgolion, busnesau a sefydliadau eraill ar draws y DU sydd yn cefnogi Adduned Busnes C-19, menter a lansiwyd gan y cyn Weinidog Cabinet, y Gwir Anrhydeddus Justine Greening, a’r entrepreneur David Harrison.

Mae busnesau sydd yn cefnogi’r cynllun yn gwneud adduned i gynorthwyo eu cyflogeion, cwsmeriaid a chymunedau ar draws Prydain i ddod drwy’r argyfwng – a nid dim ond mynd i’r afael â’r heriau uniongyrchol ddaw yn sgil coronafeirws, ond hefyd yr heriau y mae Prydain yn eu hwynebu i adfer.

Mae’r Adduned eisoes wedi ennill cefnogaeth cyflogwyr ar draws y wlad – gan gynnwys prifysgolion ar draws y DU yn ogystal â rhai o fusnesau mwyaf blaenllaw y wlad. Mae mwy na 300,000 o staff a myfyrwyr ymhlith y rhai hynny sydd eisoes wedi addo eu cefnogaeth.

Ymhlith y rhain mae’r Grid Cenedlaethol, Dŵr Hafren Trent, Clwb Pêl-droed Everton, ASDA, Grŵp y Co-op, Unilever a llawer mwy – ochr yn ochr â phrifysgolion gan gynnwys Glyndŵr, Caerwysg (Exeter), Northampton, Brunel a Swydd Stafford.

Mae pob un o’r llofnodwyr yn cefnogi tair adduned – un yr un ar gyfer eu gweithwyr cyflogedig, eu cwsmeriaid, a’u cymuned.

Y rhain yw:

•    Yn gyntaf, mynd ati i ddatblygu Cynlluniau Gweithredu i gefnogi eu staff eu hunain drwy’r heriau cyfredol maent yn eu hwynebu a thu hwnt. Gall hyn gynnwys cefnogaeth ymarferol a chyngor ar les personol, iechyd meddwl a diogelwch ariannol, yn ogystal ag ailintegreiddio’n ôl i’r gwaith ar gyfer y rheiny fu o’r gwaith am gyfnod estynedig. Mae hefyd yn ymwneud â rhannu’r wybodaeth ddiweddaraf gan y GIG ynghylch COVID-19 gyda’u cyflogeion.

•    Nesaf, gofynnir i fusnesau gyhoeddi cyngor eglur a syml ar gyfer eu cwsmeriaid. Gofynnir iddynt hefyd – lle bo hynny’n bosib – fod â thimoedd arbenigol i gefnogi’r rhai hynny sydd yn wynebu problemau megis trafferthion gydag ad-daliadau, ac i gynorthwyo cwsmeriaid sydd yn agored i niwed.

•    Yn olaf, gofynnir i fusnesau a sefydliadau ymrwymo i helpu’r wlad – yn ogystal â’r cymunedau maent yn eu gwasanaethau –  yn ystod cyfnod yr epidemig Coronafeirws. Gyda chynnydd tebygol mewn unigrwydd, unigedd a materion iechyd meddwl ac ariannol i deuluoedd ar draws y DU, bydd cymorth ymarferol, fel cyflenwi bwyd, casglu nwyddau a cymorth ariannol ar gyfer sefydliadau sydd yn arbenigo mewn cefnogi pobl sydd yn agored i niwed, yn dod yn fwyfwy pwysig.  


Dywed Justine Greening: “Gyda dyfodol llawer o gyflogwyr yn y fantol ac amseroedd anodd tu hwnt ar ddod mewn sectorau ledled y DU, mae busnesau yn wynebu penderfyniadau anhygoel o anodd.

“Ond gall y cwmnïau hynny sydd â’r modd i wneud hynny, chwarae rôl enfawr wrth frwydro yn erbyn effaith coronafeirws a gwneud gwahaniaeth gwirioneddol yn y cyfnod heriol unigryw yma.

“Er gwaethaf popeth, mae llawer o fusnesau eisoes wedi dangos blaengaredd ac ymrwymiad anhygoel drwy helpu pobl sydd wedi eu heffeithio gan coronafeirws. Nod Adduned Busnes C-19 yw annog cymaint o fusnesau â phosib i gymryd rhan, ac yna eu helpu i wneud hynny yn gynt ac yn well drwy rannu’r holl waith da sydd eisoes wedi ei wneud. Mae’r ymateb cynnar wedi bod yn anhygoel, ac fe wnaf i bopeth y medraf i gysylltu busnes ym Mhrydain i chwarae ei rôl.”

Dywed yr Athro Maria Hinfelaar, Is-Ganghellor a Prif Swyddog Gweithredol Prifysgol Glyndŵr Wrecsam: “Fel Prifysgol, rydym yn hynod falch o fedru cefnogi Adduned Busnes C-19 Justine Greeing a David Harrison, ac rydym ni gyfan gwbl tu ôl i’r cynllun.

“Mae ein gwlad a’n cymuned yn wynebu her nas gwelwyd o’r blaen, ac ym Mhrifysgol Glyndŵr Wrecsam rydym yn gweithio’n galed i gefnogi myfyrwyr, staff, ein GIG a’n cymuned wrth inni wynebu’r argyfwng yma gyda’n gilydd.

“Boed hynny drwy estyn cymorth hyfforddi a datblygu, bod ar gael i ateb pryderon myfyrwyr potensial, sicrhau bod ein staff a’n myfyrwyr yn derbyn y wybodaeth ddiweddaraf, neu gysylltu â chynlluniau gwirfoddoli sefydliadau cymunedol, rydym eisoes yn gweld pobl o bob rhan o Brifysgol Glyndŵr yn gweithio i chwarae eu rhan – ac rydym ni yma i helpu ymhellach.”