Prifysgol Glyndwr yn gyntaf unwaith eto am gynhwysiant cymdeithasol yng Nghanllaw Prifysgolion Da The Times & The Sunday Times

Date: Medi 2022

Mae PGW yn parhau i fod yn rhif un yng Nghymru a Lloegr ar gyfer Cynhwysiant Cymdeithasol am y bumed flwyddyn yn olynol, ac mae wedi cael ei rhestru yn y 10 uchaf am Ansawdd Dysgu, yn Nghanllaw Prifysgolion Da The Times & Sunday Times 2023. 

Roedd y brifysgol hefyd yn ail yng Nghymru am Foddhad Cyffredinol Myfyrwyr a Boddhad Addysgu yn yr arweinlyfr blynyddol. 

Meddai'r Athro Maria Hinfelaar, Is-Ganghellor Prifysgol Glyndŵr Wrecsam: "Unwaith eto, mae Prifysgol Glyndŵr Wrecsam wedi cadw ei henw da rhagorol am foddhad myfyrwyr a bodlonrwydd myfyrwyr yn gyffredinol, ac wedi cydnabod hefyd yn Nghanllaw Prifysgol Cyflawn 2023 lle'r ydym ni'n gyntaf yng Nghymru a Lloegr am Foddhad Myfyrwyr. 

"Mae'r brifysgol yn ymfalchïo mewn bod yn amgylchedd cynhwysol a chroesawgar i fyfyrwyr. Felly mae'n wych gweld bod ein myfyrwyr mor falch o'u hamgylchedd dysgu. 

"Mae hyn yn newyddion mor dda i'n myfyrwyr sydd ar y gweill yn ogystal â'r rhai sydd eisoes yn bwrw ymlaen â'u hastudiaethau gyda ni, ac yn croesawu cydnabyddiaeth o'r gwaith caled a wnaed gan staff a'r buddsoddiadau rydym yn eu gwneud ar draws ein campysau. 

"Ni allwn orffwys ar ein rhwyfau, fodd bynnag, a byddwn yn parhau i weithio'n galed i wella profiad a chyfleoedd myfyrwyr i'n myfyrwyr ffynnu a llwyddo." 

Mae rhestr y papur newydd cenedlaethol yn seiliedig ar ddadansoddiad o foddhad myfyrwyr gydag ansawdd addysgu a'u profiad myfyrwyr, safonau mynediad, ansawdd ymchwil, a rhagolygon graddedigion. 

Ers 2018 mae'r canllaw hefyd yn cynnwys safleoedd cynhwysiant cymdeithasol i brifysgolion yng Nghymru a Lloegr. 

Mae'r tablau'n seiliedig ar fesurau allweddol i adlewyrchu amrywiaeth eu cymeriant a'u llwyddiant dilynol wrth fynychu'r brifysgol.