Tîm Cyllid Myfyrwyr yn croesawu buddugoliaeth Rhanbarth y Flwyddyn

Student Funding team with NASMA award

Aeth Tîm Cyllid Myfyrwyr a Chyngor Ariannol i Gynhadledd flynyddol  Cymdeithas Genedlaethol i Gynghorwyr Ariannol Myfyrwyr (Nasma) ym Manceinion yr wythnos yma.

Ymunodd y tîm - Beryl Dixon, Adele Jones ac Emma Griffiths - â chynghorwyr o DU cyfan ac roedd Emma - sydd yn Gadeirydd Nasma yng Nghymru - wrth ei bodd i dderbyn gwobr Rhanbarth y Flwyddyn ar ran Cymru.

Meddai: “Rydym ni a’n cyd-weithwyr ar draws Cymru’n hapus iawn i ennill y wobr hon.

“Rydym yn cyd-weithio’n agos iawn ac yn edrych ymlaen at ein cyfarfodydd rhanbarthol, lle’r gallem ni rhannu syniadau ac ymarfer gorau. “

Ychwanegodd Beryl - sydd yn aelod Polisi Cymru ar fwrdd Nasma - mai Cymru yw’r unig rhanbarth i ennill y wobr ddwywaith ers ei sefydliad yn 2015.

“Rwyf wrth fy modd bod y beirniaid wedi cydnabod ymroddiad a gwaith called y gynghorwyr yng Nghymru. Rwy’n falch iawn o gael cynrychioli’r rhanbarth ar lefel bwrdd.

“Nasma yw’r sefydliad sydd yn oruchwylio’r gwaith y gwnewn ni fel cynghorwyr arian, a chyd-weithio yw’r ffordd o sicrhau’r gwasanaeth gorau i’n myfyrwyr yn Glyndŵr ac ar draws y wlad.”

Mae Tîm Cyllid Myfyrwyr a Chyngor Ariannol Glyndŵr wedi’i leoli yng Nghanolfan Edward Llwyd i helpu myfyrwyr hefo unrhyw cwestiynau sydd ganddynt am ffioedd, cyllid a chyngor ariannol yn ystod y flwyddyn. 

Mae’r tîm hefyd yn mynychu pob Diwrnod Agored a Noson Agored Ôl-raddedig a gynhelir gan y brifysgol - i helpu sicrhau fod darpar fyfyrwyr yn cael y cyngor sydd angen arnynt i gael y cyllid maen nhw’n ei haeddu yn ystod eu hamser yn Glyndŵr.

Ychwanegodd Beryl: “Gall ein tîm gynghori ar gyllid posib ar gyfer astudiaeth lawn neu ran amser - ac rydym hefyd yn cynnig gwiriadau iechyd ariannol, sydd yn sicrhau bod myfyrwyr yn derbyn popeth mae ganddynt hawl i’w gael yn ystod eu hastudiaethau.

“Ynghyd â hynny, rydym yn cynnig cyngor cyllidebu - pa un ai mewn cyfarfod un ac un neu syniadau ar sut i arbed arian.  Mae pob ymholiad yn hollol gyfrinachol ac mae gan y tîm blynyddoedd o brofiad yn cynghori - ac maen nhw’n defnyddio digwyddiadau fel Cynhadledd NASMA i wneud yn siŵr ein bod ni’n gyfarwydd â’r wybodaeth ddiweddaraf i gyd.”