Undeb Myfyrwyr Prifysgol Glyndŵr Wrecsam yn ennill wobr genedlaethol arall

NUS Quality AWARDS 2019

Mae gwelliannau i Undeb Myfyrwyr Prifysgol Glyndŵr Wrecsam wedi ennill gwobr gan Undeb Cenedlaethol y Myfyrwyr (UCM).

Gwobr Undebau Myfyrwyr o Ansawdd ydy’r diweddaraf mewn cyfres o wobrau i’r undeb, a’r gwobrau cyntaf y mae arlywydd newydd yr undeb, Kieran Irwin, ac is-arlywydd Ebony Banks wedi ei derbyn yn ystod eu tymor.

Gwahoddwyd Ebony, o Lanfairfechan, i’r Senedd yn San Steffan i dderbyn y gwobrau diweddaraf mewn seremoni arbennig.

Meddai: “Mae’n rhaid gwneud llawer o waith i gael eich cydnabod fel Undeb Myfyrwyr o Ansawdd - mae’r broses asesu ac archwilio yn drwyadl ac yn cynnwys dau ddiwrnod o gyfweliadau ac asesiadau yn Glyndŵr yn gynharach eleni.

“Yn ystod ymweliad yr archwilwyr, cynhaliodd yr archwilwyr cyfres o gyfarfodydd hefo’r staff, gan edrych ar bob agwedd o beth mae’r undeb yn ei gwneud cyn rhoi’r wobr.

“Roedd derbyn y wobr yn San Steffan yn fraint go iawn - ac mae’n arwydd o waith caled pawb yn UMPG.”

Y wobr Gwobr Undebau Myfyrwyr o Ansawdd ydi ail wobr yr undeb eleni, ar ôl i waith caled UMPG derbyn gwobr Tîm Gorau NUS Cymru ym mis Mawrth.

Mae’r gyfres o wobrau - sydd yn cynnwys tlysau gan UCM Cymru ac Undeb Cenedlaethol y Myfyrwyr - yn arwydd o welliant yr undeb ers mis Medi 2015, pan roedd yn urdd ac yn adran o’r brifysgol.

Mae bellach yn undeb annibynnol, wedi’i gofrestru’n elusen ac wedi dod yn gwmni yn ei rhinwedd ei hun. Mae hefyd yn cyflogi saith aelod staff a dau swyddog sabothol - Llywydd ac Is-lywydd.

Meddai Llywydd UMPG: “Mae gennym gynlluniau mawr i UMPG dros y flwyddyn academaidd. Rydym eisiau dilyn y gwaith ardderchog sydd eisoes wedi’i gwneud, ac i barhau ein llwyddiant o ran ennill gwobrau hefyd.

“Mae llawer o ddatblygiadau newydd a chyffrous ar y gweill ym Mhrifysgol Glyndŵr Wrecsam, ac mae Undeb y Myfyrwyr chwarae rôl bwysig - cadwch lygad amdanynt!”