Ymchwiliwr Glyndŵr yn datblygu hyfforddiant ar gyfer artistiaid sydd yn gweithio ym maes gofal iechyd

Anthony Jackson

Mae ymchwilydd Prifysgol Glyndŵr Wrecsam yn gweithio gyda bwrdd iechyd i gynyddu'r ddarpariaeth ar gyfer cyd-artistiaid defnyddio eu talentau i helpu cleifion ar draws Gogledd Cymru.

Mae Anthony Jackson, sydd yn ymgeisydd PhD, yn datblygu hyfforddiant ar gyfer artistiaid sy'n gweithio ym maes gofal iechyd mewn partneriaeth â Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC).

Er bod manteision defnyddio celf mewn gofal iechyd wedi bod yn faes astudio sy'n tyfu'n barhaus yn ystod y 40 mlynedd diwethaf, nid yw'r ffordd y mae artistiaid yn ymdrin â'u hymarfer wedi gweld yr un lefel o ymchwil.

"Mae fy ymchwil yn ymwneud ag arfer artistiaid sydd eisiau gweithio ym maes gofal iechyd. Gall fod yn unrhyw ddisgyblaeth o fewn y celfyddydau, nid y celfyddydau gweledol yn unig, " meddai.

"Mae llawer o waith ymchwil gwirioneddol dda yn digwydd o gwmpas budd y grefft i'r cyfranogwr, ond yr hyn rwyf wedi'i ganfod yw bod ymarfer yr artistiaid ei hun - sut maen nhw'n gwneud yr hyn maen nhw'n ei wneud a pham maen nhw'n gwneud hynny - yn cael ei tan-ymchwilio braidd, felly dyna beth dwi'n ei archwilio’n benodol 

Roedd Anthony, 26, o Gwersyllt, yn gydlynydd gweithgareddau yn Ysbyty Maelor Wrecsam cyn dechrau ar ei astudiaethau israddedig yn Glyndŵr. Mae bellach yn astudio ar gyfer PhD Celfyddydau mewn Iechyd yn y Brifysgol.

Roedd wedi cyfweld ag wyth artist ar draws Gogledd Cymru, sydd yn darparu gwasanaethau ategol mewn amrywiaeth o sectorau gan gynnwys plant sydd angen cymorth ychwanegol, pobl sydd wedi colli'r cof yn gynnar, strôc a wardiau adsefydlu, gofal dementia a chanu ar gyfer lles corfforol a meddyliol.

"Byddd yna artist sy’n gallu gweithio ym mha bynnag leoliad y gallwch feddwl amdano, o ran diffygion iechyd, felly mae'n faes eang iawn," meddai.

Treuliodd Anthony chwe mis hefyd yn cysgodi artist yn Theatr Clwyd yn yr Wyddgrug a bydd yn cynnal dau brosiect celf gyda chleifion yn Ysbyty Maelor Wrecsam. Disgwylir i'r prosiect gael ei gwblhau erbyn mis Chwefror 2021.

 “Mae gen i ddiddordeb mewn pam maen nhw’n gwneud hyn, beth sy’n effeithiol yn ymarferol, beth yw’r pethau i’w hosgoi a pha broses greadigol maen nhw’n mynd drwyddi i geisio mynd â’r person o bwynt A i bwynt B - a beth yw a ‘A a B’ i’r person hwnnw, sut beth yw llwyddiant yr artist hwnnw?” meddai.

 “Mae’r rhain yn gwestiynau mawr iawn lle nad wyf yn credu bod ateb cryno iawn ar hyn o bryd. Dyna’r cwestiynau yr wyf yn eu gofyn pan fyddaf yn mynd i leoliad gofal iechyd.”

 Mae BIPBC yn cynnig nifer o brosiectau therapiwtig creadigol yn cynnwys

‘Singing for the Soul’, sef prosiect cyfeirio gan y Tîm Iechyd Meddwl Cymunedol - neu CMHT - ar gyfer pobl sydd â hwyliau isel a phryder; ‘Arts in the Armchair’ Prosiect sgiliau theatr cyfeirio’r CMHT i bobl â nam gwybyddol ysgafn/dementia dechrau'n gynnar; Singing for Lung Health - prosiect cyfeirio’r Tîm Resbiradol ar gyfer pobl sy'n byw gyda chlefyd rhwystrol cronig yr ysgyfaint a chyflyrau cronig eraill y clefyd;  ac Arts Together, sef prosiect a ddarperir mewn partneriaeth â Gwasanaeth Celfyddydau Cyngor Sir Ddinbych, gwasanaethau addysg a chwnsela i deuluoedd mewn perygl.

 Dywedodd Andrea Davies, Cydgysylltydd Celfyddydau mewn Iechyd a Lles BIPBC: "Mae ansawdd, safonau a llywodraethu da yn bwysig i'n Bwrdd Iechyd ac wrth symud ymlaen, mae'n hanfodol ein bod yn sicrhau bod ein hartistiaid gweithredol yn cael eu cefnogi a'u harfogi i gyflwyno gweithdai i'n cleifion a'n cymunedau mwyaf bregus.

 "Er bod ein hartistiaid proffesiynol presennol yn brofiadol ac yn fedrus yn y maes hwn, rydym am ddatblygu'r hyfforddiant arbenigol ychwanegol hwn er mwyn i hwyluswyr creadigol newydd allu dysgu'r arfau mwyaf effeithiol ar gyfer y fasnach.

 "Mae ymyriadau'r celfyddydau mewn iechyd yn rhoi cefnogaeth gadarnhaol i'n cleifion, yn aml yn cael eu disgrifio fel ' achubiaeth ' a ' hanfodol ' i gleifion a allai fel arall ddod yn unig, yn ynysig neu'n isel eu hysbryd.

 "Mae modelau presgripsiynau cymdeithasol/y celfyddydau ar bresgripsiwn yn dod yn fwyfwy poblogaidd ac er mwyn cyflawni'r safonau uchaf posibl, mae'n hanfodol ein bod yn edrych i ddyfodol o gynnig hyfforddiant safonol ac effeithiol o safon i artistiaid sy'n dymuno gweithio o fewn iechyd a lles."