Athrofa Marchnata Sri Lanka (SLIM) yw'r prif gorff ar gyfer Marchnatwyr Sri Lanka, a sefydlwyd ym 1970 ac yna cafodd ei gorffori gan ddeddf Seneddol ym 1980 er mwyn ei gydnabod fel y Corff Cenedlaethol ar gyfer marchnata ac yn sefydliad ddim er elw.

Llywodraethir SLIM gan Gyngor Rheoli a Phwyllgor Gweithredol a gadeirir gan Lywydd ac sy'n cynnwys gweithwyr proffesiynol o sawl diwydiant mewn swyddogaeth anrhydeddus.

Mae SLIM yn mynd ati i hyrwyddo Marchnata fel athroniaeth fusnes hanfodol i hwyluso'r genhadaeth o sefydlu Marchnata fel y grym ysgogol sy'n gwella busnes a gwerth cenedlaethol yn gyffelyb.

Gellir astudio'r cyrsiau Prifysgol Glyndŵr Wrecsam canlynol yn SLIM:

  • MBA Marchnata llawn amser a rhan-amser