Cychwynnodd taith CIRCA fel sefydliad seiberddiogelwch neilltuol yn 2011, ond heddiw mae’n grŵp amrywiol sy’n canolbwyntio ar addysg uwch, gwasanaethau ymgynghoriaeth seiberddiogelwch, datrysiadau deallusrwydd artiffisial a datblygiad meddalwedd.

Gyda chyfradd myfyrwyr o fwy na 2,000 dros gyfnod o wyth mlynedd, mae hefyd wedi ennill ei blwyf fel y sefydliad gorau ar gyfer Addysg Seiberddiogelwch yn Sri Lanka ac maent hefyd yn ganolfan wedi’i chymeradwyo gan TVEC (Tertiary Vocational Education Commission) ar gyfer addysg uwch.

Gellir astudio’r cyrsiau Prifysgol Wrecsam Glyndŵr canlynol yn CICRA:

  • BSc (Anrh) Ychwanegiad Seiberddiogelwch Lefel 6
  • MSc Ychwanegiad Seiberddiogelwch