Coleg Cambria yng Ngogledd Ddwyrain Cymru yw un o golegau mwyaf y DU gyda dros 7,000 o fyfyrwyr llawn amser a 20,000 o ddysgwyr rhan-amser, ac incwm blynyddol o dros  £65 miliwn.

Crëwyd Coleg Cambria yn dilyn uno Coleg Glannau Dyfrdwy a Choleg Iâl, Wrecsam yn Awst 2013. Mae ganddo chwe champws o gwmpas Wrecsam, Sir y Fflint a Sir Ddinbych, ac mae'n cynnig un o’r portffolios cwricwlwm ehangaf mewn unrhyw goleg yng Nghymru, yn cynnig rhaglenni o lefel cyn-mynediad i Lefel 7.

Coleg Cambria – Campws Ffordd y Bers

Mae Coleg Cambria, sef Coleg Iâl gynt, wedi’i leoli yng nghanol dref Wrecsam, gydag oddeutu 3,000 o fyfyrwyr llawn amser a 10,000 o fyfyrwyr rhan-amser wedi’u dosbarthu ar draws dau gampws.

Gellir astudio’r cyrsiau Prifysgol Glyndŵr canlynol yng Ngholeg Cambria Campws Ffordd y Bers:

  • HNC Astudiaethau Adeiladu
  • HNC Peirianneg Sifil

Coleg Cambria – Glannau Dyfrdwy 

Mae Coleg Cambria Glannau Dyfrdwy, Coleg Glannau Dyfrdwy gynt, wedi’i lleoli yng Nghei Cona, gyda safleoedd eraill ym Mhenarlâg a Llysfasi, yn ogystal â’i gampws yn Llaneurgain, mae’n ei rannu gyda Phrifysgol Glyndŵr. Mae gan y coleg oddeutu 4,000 o fyfyrwyr llawn amser a 10,000 o fyfyrwyr rhan-amser.

Gellir astudio’r cyrsiau Prifysgol Glyndŵr canlynol yng Nglannau Dyfrdwy:

  • HNC Technoleg Drydanol ac Electronig
  • HNC Technoleg Fecanyddol