Mae Coleg MBS Creta yn sefydliad addysgol uchel ei barch yn Heraklion, Creta, Groeg. Sefydlwyd y Coleg ym 1998 dan enw Ysgol Rheolaeth Heraklion er mwyn ateb y galw cynyddol am gyrsiau addysg uwch yn ne Groeg. Yn 2009, derbyniodd Coleg MBS Creta'r ddwy drwydded sydd eu hangen, gan Weinyddiaeth Addysg Roeg, er mwyn sefydlu a gweithredu Colegau preifat yng Ngroeg. Hefyd, yn 2009, symudodd Coleg MBS Creta i'w gampws newydd a adeiladwyd yn ardal Therissos yn Ninas Heraklion.

Heddiw mae gan Goleg MBS Creta dîm o 40+ o academyddion a dros 150 o fyfyrwyr. Mae strategaeth darparu rhaglenni Coleg MBS yn canolbwyntio'n bennaf ar ddosbarthiadau bach (hyd at 25 o fyfyrwyr). Coleg MBS Creta yw'r unig goleg trwyddedig yn ne Groeg sy'n gallu sefydlu partneriaethau cydweithredol gyda Phrifysgolion o Ewrop.

Mae Coleg MBS yn cynnig y graddau Prifysgol Glyndŵr Wrecsam canlynol:

  • BA (Anrh) Busnes
  • BA (Anrh) Lletygarwch, Twristiaeth a Rheoli Digwyddiadau
  • Meistr Gweinyddiaeth Fusnes (MBA)
  • BSc (Anrh) Seicoleg