Sefydlwyd Coleg SHRM yn 2007, ac mae'n cynnig un o'r rhaglenni Rheolaeth Lletygarwch mwyaf cynhwysfawr yn Singapore, yn cwmpasu pob agwedd o'r diwydiant lletygarwch ac mae'n rhoi pwyslais mawr ar addysg o ansawdd a'r trosglwyddiad o werthoedd cywir, gan ddatblygu myfyrwyr i fod yn arweinwyr moesegol y dyfodol. Derbyniodd Coleg SHRM ei wobr EduTrust cyntaf ym Medi 2010.

 

Mae Coleg SHRM yn cynnig y graddau Prifysgol Glyndŵr Wrecsam canlynol:

  • BA (Anrh) Busnes (L6 Ychwanegol)
  • BA (Anrh) Lletygarwch, Twristiaeth a Rheoli Digwyddiadau (L6 Ychwanegol)
  • MBA