Wedi’i sefydlu ym 1960, mae Cymdeithas Reolaeth Hong Kong (HKMA) yn gorff proffesiynol sydd wedi bod yn cwrdd ag anghenion addysg a hyfforddiant rheolwyr y gymuned fusnes yn Hong Kong ers dros hanner can blwyddyn.  

Gyda chanolfannau hyfforddi wedi’u lleoli ar draws Hong Kong, mae’r Gymdeithas yn darparu ar gyfer oddeutu 48,000 o bobl sy’n astudio ar fwy na 2,000 o raglenni sy'n gysylltiedig â Busnes a Rheolaeth bob blwyddyn.

Mae Cymdeithas Rheolaeth Hong Kong yn cynnig y graddau Prifysgol Glyndŵr canlynol:

  • BA (Anrh) Busnes
  • BA (Anrh) Cyfrifeg a Chyllid
  • MBA