Wedi'i sefydlu ym 1958, Prifysgol Bolytechnig Dalian (DPU) oedd un o'r pedwar sefydliad diwydiant ysgafn cynharaf yn China. Cafodd ei hisraddio i Weinidogaeth Diwydiant Ysgafn China. Ym 1998, cafodd ei system reoli ei throsglwyddo i'r adeiladwaith ar y cyd gan lywodraeth ganolog a llywodraeth leol China, gyda llywodraeth Talaith Liaoning yn chwarae rhan fawr. Gyda chymeradwyaeth Gweinidogaeth Addysg China, ailenwyd Sefydliad Diwydiant Ysgafn China yn Brifysgol Bolytechnig Dalian ym mis Mawrth 2007. Dros y pum deg mlynedd diwethaf, yn DPU mae chwe phrif ddisgyblaeth wedi bod yn datblygu'n gytûn, gan gynnwys peirianneg (y brif ddisgyblaeth) gwyddoniaeth, celf, llenyddiaeth, rheolaeth ac economeg. Mae DPU yn meithrin doniau proffesiynol ym meysydd diwydiant ysgafn, prosesu tecstilau, gwyddor bwyd, celf ac yn y blaen. Mae oddeutu 60,000 o ddoniau mewn meysydd amrywiol wedi eu meithrin gan DPU yn y blynyddoedd diwethaf.

Gellir astudio'r cyrsiau Prifysgol Glyndŵr Wrecsam canlynol ym Mhrifysgol Bolytechnig Dalian:

  • BEng (Anrh) Peirianneg Mecatroneg llawn amser