Mae Prifysgol Shanghai yn brifysgol gynhwysfawr a gafodd ei hadeiladu gan y Weinyddiaeth Addysg a Llywodraeth Pobl Ardal Shanghai, ac mae’n aelod o Brifysgolion Prosiect 211 Tsieina ac yn brifysgol datblygu disgyblaethau o’r radd flaenaf ar draws y wlad. Mae capasiti ymchwil a lefel Prifysgol Shanghai ymhlith prifysgolion gorau Tsieina. Mae Prifysgol Shanghai wedi cyrraedd safle 387 o blith prifysgolion y byd a safle 16 o blith prifysgolion Tsieina yn y QS2021 World Rankings. Sefydlodd Prifysgol Shanghai y World Commercial District Institute yn 2019. Diben y World Commercial District Institute (WCDI) ym Mhrifysgol Shanghai, sydd wedi’i seilio ar arbenigedd academaidd ac adnoddau’r Ysgol Reolaeth ym Mhrifysgol Shanghai, yw cynnal gwaith ymchwil a rhannu gwybodaeth ddamcaniaethol ynghylch busnes y byd, er mwyn hyrwyddo datblygiad arloesol economi fusnes Shanghai, ac i ddod yn llwyfan ddylanwadol ar gyfer ymchwil cymhwysol a hyfforddi doniau ym maes rheoli busnes yn Tsieina.

 

Nodau’r Sefydliad:

  • Hyrwyddo datblygiad a chymhwysiad y ddamcaniaeth rheolaeth busnes rhyngwladol drwy ymchwil o ansawdd.
  • Hyrwyddo datblygiad arloesedd mentrau gan roi ymgynghoriaeth fanwl gywir.
  • Meithrin arbenigwyr rheolaeth busnes rhyngwladol drwy addysg systematig a beirniadol.

Mae WCDI Prisygsol Shanghai yn cynnig y gradd(au) Prifysgol Glyndŵr canlynol:

  • MBA