Mae Ysgol Dylunio Inchbald, yn Llundain, yn ysgol Dylunio Mewnol, Addurno Mewnol a Dylunio Gerddi annibynnol, sy'n cynnig cyrsiau ar-lein a mewnol o Raddau MA a Diplomâu Ôl-raddedig i gyrsiau rhagarweiniol byr.
Wedi'i sefydlu ym 1960, Inchbald yw'r ysgol dylunio mewnol gyntaf yn Ewrop, ac mae'n darparu hyfforddiant eang ar gyfer dylunwyr sy'n dymuno arbenigo mewn gwaith tai a masnachol uchel ei fri.
Mae'r bartneriaeth rhwng Ysgol Dylunio Inchbald a Phrifysgol Glyndŵr yn golygu bod y coleg yn darparu'r cyrsiau Prifysgol Glyndŵr canlynol:
BA (Anrh) / BA (Ord) / Dip HE Dylunio Mewnol Pensaernïol
BA (Anrh) / BA (Ord) / Dip HE Dylunio Gerddi
Tyst AU Dylunio
Tystysgrif Glyndŵr mewn Dylunio ac Addurno Mewnol
Tystysgrif Glyndŵr mewn Dylunio Gerddi
MA Dylunio Pensaernïol Mewnol
MA Dylunio Gerddi
Diploma Ôl-raddedig mewn Dylunio Pensaernïol Mewnol