Prifysgol y Plant

Logo for North Wales Children's University with smiley face

Beth yw Prifysgol y Plant?

Mae’r cynllun cyffrous hwn yn annog a gwobrwyo pobl ifanc i gymryd rhan mewn gweithgareddau allgyrsiol a gwirfoddol yn eu hysgolion, eu cymunedau aar-lein er mwyn codi dyheadau, a chynnig profiadau, sgiliau, ffrindiau a diddordebau newydd i bobl ifanc. 

Gwyliwch y fideo byr, llawn hwyl hwn sydd wedi’i dargedu ar gyfer pobl ifanc, eu teuluoedd a sefydliadau lleol i ddarganfod pob dim yr ydych angen ei wybod am Brifysgol y Plant yn Wrecsam a Sir y Fflint. Yn cynnwys Isdeitlau Cymraeg. 

Pwy sy'n rhedeg Prifysgol y Plant?

Mae’r cynllun yn cael ei reoli gan Brifysgol Glyndŵr Wrecsam mewn partneriaeth â Phrifysgol Bangor a phartneriaid o Fwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Wrecsam aBwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Sir y Fflint, megis Coleg Cambria, Adrannau Addysg Wrecsam a Sir y Fflint a GwE. Fe’i datblygwyd trwy is-grŵp Dysgu Gydol Oes Bwrdd Gwasanaeth Cyhoeddus Wrecsam. Gallwch ddarllen mwy am ein llywodraethu yma.

Dechreuodd Prifysgol y plant Wrecsam weithio gydag Ymddiriedolaeth Prifysgol y Plant yn 2021, gan gynnal peilot i nifer o blant ysgol yn Wrecsam a Sir y Fflint, i gymryd rhan yn y cynllun. Gallwch ddarllen mwy am gynllun peilot 2021 yma.

Pupils from Bodhyfryd standing outside their classroom

Sut mae’n gweithio?

Mae ysgolion a grwpiau cymunedol yn cofrestru i ddod yn aelod o Brifysgol y Plant ac yn talu ffi flynyddol. Ar ôl iddynt danysgrifio, bydd eu pobl ifanc yn dod yn aelodau o Brifysgol y Plant ac yn derbyn manylion mewngofnodi ar gyfer eu dangosfwrdd PP Ar-lein. 

Gellir hefyd prynu Pasport i Ddysgu i gofnodi codau stamp a dderbynnir gan bob gweithgaredd dilys y byddant yn eu cwblhau.

Ar ôl eu hennill, bydd y bobl ifanc yn mewngofnodi i Brifysgol y Plant Ar-lein a'u dangosfwrdd unigol ac yn ychwanegu'r codau stamp. Mae hyn yn eu helpu nhw i weld sut maen nhw'n datblygu at y lefel wobrwyo nesaf; myfyrio ar y sgiliau maent yn eu meithrin wrth gael eu hannog i roi cynnig ar rywbeth newydd a chyffrous.

Mae eu dangosfyrddau yn eu caniatau i weld eu horiau cyfredol a'r gweithgareddau syd ar gael yn eu hysgol neu grwp. Hefyd gallent chwillio am weithgareddau ar-lein ac yn y gymuned, a gofyn cwestiynau.

Dathlir eu hamser yn dysgu ac yn gwirfoddoli drwy system wobrau:
Efydd = 30 awr
Arian = 65 awr
Aur = 100 awr

Ac mae’r rhain yn parhau’r holl ffordd at 1,000 awr!

Gall plant a phobl ifanc dderbyn hyd o 30 o dystysgrifau gwahanol fel gwobr am eu cyfraniad allgyrsiol!

Anfonir tystysgrifau Efydd ac Arian i'r ysgolian neu'r gwrpiau cymunedol er mwyn iddynt hwy eu cyflwyno, ac mae gennym ni hefyd anrhegion unigryw ar Iefelau penodol.

Yr hyn sydd wirioneddol yn gwneud i'r cynllun Prifysgol y Plant sefll allan yw ein digwyddiadau GRADDIO blynyddol!

Cosplayer and young person graduating

Beth yw Cyrchfan Ddysgu?

Rydym yn awyddus i blant o bob oed gael y cyfle i ddarganfod hobïau, chwaraeon a lleoedd newydd, i ddatblygu brwdfrydedd cydol oes am ddysg ac i gydnabod y cyfleoedd gyrfa amrywiol sydd o fewn eu cyrraedd. 

Drwy gysylltu pobl ifanc â “Chyrchfannau Dysgu”, yr enw sy’n disgrifio unigolion, grwpiau a sefydliadau sy’n darparu’r cyfleoedd hyn, mae Prifysgol y Plant yn ei gwneud yn rhwyddach i deuluoedd ddarganfod mwy ar eu carreg drws. 

Gallant gynnwys clybiau a chymdeithasau lleol, sgowtiaid a geidiaid neu leoedd o ddiddordeb fel amgueddfeydd, theatrau a phlastai.

Maent yn weithgareddau gwirfoddol sy’n golygu bod plentyn neu berson ifanc wedi dewis cymryd rhan ynddynt gan eu bod fel rheol y tu allan i’r cwricwlwm ysgol arferol.

Mae nifer o leoedd llai amlwg ar gyfer dysgu megis gorsafoedd radio lleol, ysbytai, gweithleoedd a safleoedd y cyngor.

Yn wir, gallai Cyrchfan Ddysgu fod yn unrhyw le, lle gall plant ddysgu a datblygu sgiliau. Mae’r cyfleoedd yn ddiderfyn. 

Xplore at the graduation

Mae cymryd rhan yn rhad ac AM DDIM a bydd eich sefydliad yn dod yn gyrchfan apelgar i aelodau Prifysgol y Plant, sy'n dymuno ehangu eu profiadau ac ennil stampiau.

Llenwch y ffurflen Cyrchfan Ddysgu a byddwn yn cysylltu â chi.

Unrhyw gwestiynau eraill?

E-bostiwch y tim childrens.university@glyndwr.ac.uk

Gallwch hefyd fynd i wefan genedlaethol Prifysgol y Plant yn www.childrensuniversity.co.uk

Dilynwch, hoffwch a thanysgrifwch i Brifysgol y Plant yma;

Social media qr codes