Mae Amanda yn fyfyriwr Addysg MA ym Mhrifysgol Wrecsam.

Beth oeddech chi'n ei gwneud cyn dod i Brifysgol Wrecsam?

Rwyf wedi gweithio fel prifathrawes gynradd ers 2004 ac roeddwn i'n chwilio am gwrs gradd Feistr i wella fy sgiliau presennol, gwybodaeth ac ymarfer.

Pam wnaethoch chi ddewis eich cwrs?

Dewisais astudio MA Addysg (Arweiniad) yn Wrecsam, yn bennaf oherwydd ei leoliad, ond hefyd buaswn i'n gallu astudio rhan-amser dros dair blynedd, a wnaeth yn bosib i mi gwblhau'r cwrs wrth weithio.

Beth wnaeth eich synnu chi mwyaf am y cwrs?

Cefais fy synnu gan faint wnaeth herio fy ngwybodaeth broffesiynol a meddwl, gan ddatblygu'r sgiliau roeddwn i'w hangen i ddehongli a gwerthfawrogi ymchwil addysgol ar lefel dyfnach. Roedd y gweithgareddau ymchwil ac astudio'n berthnasol i fy swydd, a roddodd y cyfle i mi wella fy mhractis ar yr un pryd ac roedd y darlithwyr i gyd yn gefnogol iawn.

Sut ydych wedi elwa o astudio yn Wrecsam?

Ar ôl cwblhau’r cwrs, mae gen i'r hyder i herio ac archwilio ymchwil addysgol, yn ogystal â datblygu gwell dealltwriaeth o ystod ehangach o systemau a fframweithiau addysgol. Rwyf wedi datblygu cysylltiadau positif gydag eraill yn y proffesiwn a nawr yn gallu cefnogi eraill sydd yn ystyried astudiaethau israddedig ac ôl-raddedig.

Sut ydych yn feddwl bydd y cwrs yn helpu'ch gyrfa?

Yn bwysig iawn, rwyf yn teimlo fod gen i'r sgiliau i wella arweiniad strategaethol fy ysgol ac wedi ennill hyder i fod yn gadeirydd Ffederasiwn Prifathrawon Cynradd yn Wrecsam. Mae'n fraint ac rwyf yn ddiolchgar am gael astudio yn Wrecsam a bod yn rhan o'r sefydliad. Rwyf yn falch iawn o fy nghyflawniadau.