Astudiodd Dr Amarit Gill MRes Gwyddorau Biofeddygol Cymhwysol yma ym Mhrifysgol Glyndŵr Wrecsam.

Roedd yr MRes mewn Gwyddorau Biofeddygol Cymhwysol yn gyfle gwych i ddatblygu sgiliau academaidd rhan-amser, ochr yn ochr â hyfforddiant fel Meddyg Sylfaen Academaidd. Mae’r cwrs yn cael ei ddarparu drwy Brifysgol Glyndŵr mewn partneriaeth â Chanolfan Ymchwil Glinigol Gogledd Cymru yn Ysbyty Maelor Wrecsam. Mae wedi ei achredu gan y Sefydliad Gwyddorau Biofeddygol. O ganlyniad i’r bartneriaeth unigryw hon, mae darpariaeth y cwrs yn elwa o safbwyntiau ymchwil a chlinigol. Nid yn unig y mae’r cyfleusterau labordy sydd newydd eu hadeiladu yn rhagorol; hefyd felly mae ansawdd yr addysgu ymarferol yn y labordy yn ystod modiwlau Technegau Dadansoddi a Moleciwlaidd. 

Roedd modiwlau eraill a addysgwyd, sef Patholeg Glinigol a Dulliau Ymchwil yn ddiddorol, addysgiadol ac yn darparu cynnwys dysgu perthnasol i’r Traethawd Ymchwil. Mae posibilrwydd i deilwrio prosiect sy’n canolbwyntio ar eich diddordebau ymchwil gan wella eich rhagolygon gyrfa. Mae ystod o adnoddau ar gael, ac maent yn hawdd eu cyrraedd drwy lyfrgell y brifysgol a’r platfform dysgu ar-lein. Roedd dysgu am sut i geisio am grantiau ymchwil a chymeradwyaeth foesegol yn uchafbwynt i’r rhaglen, gydag awgrymiadau defnyddiol ac enghreifftiau gan ymchwilwyr profiadol. Roedd y staff academaidd a’r goruchwylwyr gydol y cwrs yn bobl hawdd mynd atynt, ymatebol a chefnogol o anghenion y myfyrwyr.

Roedd cwblhau’r cwrs hwn ochr yn ochr â gweithio llawn-amser yn heriol ar adegau, waeth pa mor gyraeddadwy a gwerth chweil. Roedd fy nhraethawd ymchwil yn archwilio rôl profion gwaed haematolegol a biofecanyddol arferol o ran rhagfynegi cymhlethdodau ôl-lawdriniaethol yn dilyn echdoriad traws-wrethrol tiwmor y bledren. At ei gilydd, rydw i wedi cryfhau fy sgiliau academaidd a phortffolio, gan ennill profiad ymchwil, cysylltiadau ymchwil rhagorol a chyhoeddiadau ar hyd y ffordd. Ar hyn o bryd, rwy’n gweithio fel Hyfforddai Radioleg Clinigol yn Sheffield ac yn edrych ymlaen at ddilyn y trywydd academaidd ymhellach.