Mae Andy'n darllen am MPhil mewn Athroniaeth. Mae ei draethawd ymchwil hir am agweddau cyfoes Prydain tuag at berthnasoedd rhynghiliol Du-Gwyn. 

Beth oeddech chi'n ei wneud cyn dod i Brifysgol Glyndŵr Wrecsam?

Rwy i wedi bod yma ers cryn dipyn o amser bellach, gan fod fy swydd lawn amser o fewn tîm marchnata a recriwtio'r brifysgol. Cyn hynny, gwnes i'm gradd israddedig yma ac gwnes i hefyd cwblhau lleoliad addysgu gwirfoddol yn Ghana rhwng 2008-9

Beth oedd yn eich denu i Brifysgol Glyndŵr Wrecsam?

Roeddwn i wedi bod eisiau cymryd y cam nesaf yn fy ngyrfa academaidd ers tro, ond heb ddod o hyd i'r math iawn o gwrs i mi. Ar ôl gwneud ychydig o ddarllen ar bwnc Seicoleg, sylweddolais fy mod wedi darganfod y troedle roeddwn i'n chwilio amdano, a, gan fy mod eisoes yn cael fy nghyflogi gan y brifysgol, roedd yn gwneud synnwyr i fynd at dîm Seicoleg y brifysgol yn y lle cyntaf .

Sut oedd y newid rhwng astudio israddedig ac ôl-raddedig?

Gan fy mod yn fyfyriwr ymchwil, mae'n brofiad eithaf gwahanol i astudio israddedig, neu'r math o brofiad y gellid ei ddisgwyl gan gwrs Meistr a addysgir, lle rydych chi'n rhan o garfan o fyfyrwyr. O ganlyniad, gallwch chi deimlo'n eithaf ynysig ar adegau, gan mai dim ond chi a'ch ymchwil yw'r cwrs. Serch hynny, mae'r gymuned o fyfyrwyr ymchwil ôl-raddedig, a'r gymuned academaidd ehangach yn PGW, yn gefnogol iawn ac rwy'n dal i ryfeddu faint o ddiddordeb sydd gan gydweithwyr gydag ymchwil pobl eraill; hyd yn oed pan fo mewn disgyblaeth gwbl wahanol i'w hymchwil eu hunain.

Un o uchafbwyntiau'r gymuned hon yw cyfarfodydd y Tŷ Agored sy'n cael eu cynnal bob yn ail a thrydydd mis. Fel arfer mae tua T8-9 o fyfyrwyr ac academyddion yno sy'n treulio deg munud yn siarad am agwedd ar eu hymchwil - mae bob tro'n brofiadgwirioneddol ddiddorol ac egnïol ac mae hefyd yn gyfle gwych i rwydweithio!

A yw'n her i gydbwyso'ch ymrwymiadau gwaith a theulu ochr yn ochr ag astudio? 

Ateb byr - YDY! Rydw i'n astudio ar gyfer fy MPhil yn rhan amser, ochr yn ochr â swydd amser llawn ac mae gen i deulu hefyd i'w gefnogi, felly gall fod yn eithaf llond llaw ar adegau fel y gallwch ddisgwyl.

Fodd bynnag, gyda llawer o hunan-ddisgyblaeth a rheoli amser da mae'n fwy na phosibl - rwyf wedi bod yn gallu cwblhau dwy ran o dair o'm hadolygiad llenyddiaeth yn 7 mis cyntaf fy nghwrs a dal i wylio The Walking Dead a Game of Thrones! 

Sut oedd y cymorth?

Mewn ymchwil ôl-raddedig, mae cael tîm goruchwylio gwych yn gwneud gwahaniaeth enfawr a gall wneud y profiad astudio cyfan yn llawer haws. Rydw i wedi bod yn hynod lwcus yn hyn o beth, ac rwy'n ystyried bod fy arolygwyr (pob un o'r academyddion seicoleg profiadol iawn) yn fendigedig!

Mae ganddynt ddiddordeb gwirioneddol yn fy mhrosiect ymchwil a theimlaf fy mod i'n cael fy herio'n briodol gan yr awgrymiadau y maent yn eu gwneud a'r adborth y maent yn ei roi.Gallaf ddweud yn onest nad wyf erioed wedi teimlo nad ydw i'n gwybod beth i'w wneud nesaf gan eu bod nhw bob amser yno pan fydd angen ychydig o gyngor arnoch chi, neu dim ond sgwrs anffurfiol! 

Beth ydych chi'n gobeithio ei wneud pan fyddwch chi'n graddio?

Gobeithio astudio llawer mwy! Mae fy ymchwil MPhil yn studiaeth beilot ar gyfer prosiect mwy manwl yr hoffwn edrych arno fel rhan o PhD.  Ar ôl hynny, bydd yn rhaid i mi weld lle mae bywyd yn ,fy nhirio, ond yn y pen draw rwy'n bwriadu ymfudo â'm teulu i Ghana (gwlad wreiddiol fy ngwraig) - gobeithio y bydd fy nghymwysterau a'm profiadau yn fy helpu i gael swydd addysgu yn un o'r sawl prifysgol sydd yn y wlad.

Sut ydych chi'n meddwl eich bod chi wedi elwa o astudio ym Mhrifysgol Glyndŵr Wrecsam?

Rwyf yn dal i fod yng nghanol fy rhaglen Meistr, felly mae'n anodd ei fesur. Ond, cawsom fy synnu gan nifer y cyfleoedd DPP a hyfforddi sydd ar gael i fyfyrwyr ymchwil ôl-raddedig, a fyddai'n sicr o fudd i unrhyw un sy'n bwriadu symud ymlaen i'r byd academaidd neu ymchwil bellach.

Pe baech chi'n crynhoi eich profiad ym Mhrifysgol Glyndŵr Wrecsam mewn Uun gair, beth fyddai hynny a pham?

Cefnogol.

Un o'r manteision o fod mewn sefydliad cymharol fach yw'r cyfyrffiad personol sy'n bosibl wrth weithio gyda thiwtoriaid a goruchwylwyr. Nid ydych yn rhif di-wyneb ac mae mae tiwtoriaid yn dod i'ch adnabod yn dda iawn – rhywbeth sy'n arbennig o bwysig i fyfyrwyr ymchwil, gan fod meddu ar berthynas weithio dda gyda'ch tîm goruchwylio yn aml yn ddeuparth y gwaith. Mae'r gymuned academaidd yma yn ymchwilwyr gweithredol ac mae'n dal i'm rhyfeddu pa mor ddiddorol yw eu diddordebau ymchwil, yn ogystal â'r ddiddorol sydd ganddynt gydag ymchwil o feysydd eraill, hyd yn oed y rhai o ddisgyblaethau hollol wahanol. Yn bersonol, credaf fod hon yn gymuned wych ar gyfer darpar fyfyrwyr ymchwil ôl-raddedig (a myfyrwyr israddedig  o ran hynny!) ac y cewch chi gefnogaeth dda yma.