Astudiodd Anthony Gomez BSc (Anrh) Hyfforddi Pêl-droed a’r Arbenigwr Perfformiad (gyda Blwyddyn Sylfaen) yma ym Mhrifysgol Glyndŵr o 2017-20.

Sut wnaeth eich amser yma ym Mhrifysgol Glyndŵr eich paratoi chi ar gyfer byd gwaith?

Roedd yna gyfleoedd gwych wrth astudio. Fe alluogodd hyn i mi ennill profiad o’r byd real a gwneud cysylltiadau o fewn y diwydiant pêl-droed. Roedd cynnwys y cwrs hefyd yn caniatáu imi weithio gyda meddalwedd a thechnoleg o’r safon uchaf sy’n cael eu defnyddio yn y diwydiant. Yn ystod fy amser ym Mhrifysgol Glyndŵr fe ddysgais sgiliau newydd a magu hyder wrth wneud cyflwyniadau. Fel myfyriwr hŷn, darparodd Glyndŵr lwybr strwythuredig yn ôl at addysg gan gefnogi fy nhwf yn bersonol, yn academaidd ac yn broffesiynol.

Beth ydych chi’n ei wneud yn eich swydd bresennol?

Rydw i’n gweithio fel dadansoddwr perfformiad ym maes pêl-droed. Rydw i’n dadansoddi perfformiad y tîm a’r chwaraewyr yn unol ag athroniaeth dadansoddi pêl-droed a pherfformiad y Clwb. Rydw i’n dadansoddi pob gêm a chlipiau fideo o’r gêm o ran meini prawf cytunedig yn unol â dadansoddiad o berfformiad y Clwb ac athroniaeth yr Academi. I wneud hyn rydw i yn mynychu gemau cartref ac oddi cartref ac yn cyfathrebu’n rheolaidd gyda’r staff hyfforddi o ran anghenion dadansoddi'r grŵp cyfan. Rydw i’n creu, yn arwain ac yn cyflwyno fideos ar gyfer chwaraewyr unigol ac ar gyfer y tîm cyfan. Rydw i hefyd yn cynnal cronfa ddata o glipiau o arfer gorau er mwyn i’r clwb fedru tynnu arnynt ar unrhyw adeg. 

Beth fu uchafbwyntiau eich gyrfa hyd yn hyn?

Trwy’r rhaglen radd BSc (Anrh) Hyfforddi Pêl-droed a’r Arbenigwr Perfformiad, cefais gyfle anhygoel i weithio ochr yn ochr â Thîm Dadansoddi FAW ar lwyfan cenedlaethol yn ystod gêm Cymru V Trinidad a Tobago yn 2019. Rydw i hefyd wedi gweithio ar gyfer FAW ar sawl prosiect arall oedd yn hynod werthfawr. Yn ystod fy astudiaethau cefais gynnig interniaeth i weithio fel dadansoddwr ar gyfer Clwb Pêl-droed Cymdeithas Wrecsam. Unwaith eto, cyfle gwych arall ble cefais gyfoeth o brofiad ym myd cymhwysol pêl-droed elît.

Gofynnwyd imi fod yn ddadansoddwr perfformiad ar gyfer twrnamaint cwpan byd 6v6 ym Mecsico yng ngwanwyn 2022, ac yn edrych ymlaen yn fawr at hynny!

Beth wnaeth ichi ddewis Prifysgol Glyndŵr?

Roeddwn i’n gwybod fy mod am ddilyn gyrfa yn y diwydiant pêl-droed. Fe wnes i fy ymchwil o ran cyrsiau oedd ar gael a sylweddoli nad oedd llawer o brifysgolion yn y DU yn darparu cwrs yn benodol ar gyfer pêl-droed. Nid yn unig yr oedd PGW yn darparu cwrs penodol ar gyfer pêl-droed, roeddent hefyd yn integreiddio cymwysterau addysg hyfforddwyr gwerthfawr fel rhan o’r radd! A minnau yn fyfyriwr hŷn, roeddwn yn gwybod y byddwn i ar fy ennill! Gradd pêl-droed PGW oedd y mwyaf trawiadol o bell ffordd, ond yn ddaearyddol, y lle gorau am fod gen i deulu yn byw rhyw 45 munud o’r brifysgol. Yn ail, y darlithwyr. Roedden nhw’n wych! Nid dim ond o safbwynt academaidd, ond hefyd fel rhwydwaith cefnogi. Fe wnaethon nhw fy herio i wthio fy hun ymhellach a’m cefnogi bob cam o’r ffordd!

Pa fath o fyfyriwr oeddech chi?

Des i’r brifysgol drwy’r rhaglen sylfaen.  Mae peth amser ers i mi fod ym myd addysg, a doeddwn i ddim yn teimlo fy mod i’n ‘academydd’.  Fodd bynnag, drwy ddechrau’r daith ar y flwyddyn sylfaen, fe ddysgodd imi sut i fod yn fyfyriwr a sut i reoli fy llwyth gwaith a’m hamser.

Roeddwn i hefyd yn cymryd rhan mewn llawer o bethau – yn rhoi fy llaw i fyny ar gyfer yr amrywiol gyfleoedd oedd ar gael! Roedd y darlithwyr yn darparu cymaint o gyfleoedd, ac yn ein hannog ni i gymhwyso gwybodaeth ddamcaniaethol i’r amgylchedd pêl-droed cymhwysol.

Sut wnaeth astudio yng Nglyndŵr eich helpu chi?

Yn ychwanegol at y wybodaeth ddamcaniaethol, roedd y cyfleoedd rhwydweithio yn arbennig! Fe wnaeth y cyfle i siarad gyda gweithwyr proffesiynol yn y diwydiant roi llwybr gwych imi ar gyfer swyddi i’r dyfodol. Ar ben hynny, drwy gael y drwydded UEFA B drwy’r rhaglen, rydw i mewn safle da i fynd am swyddi ac mae wedi fy mharatoi ar gyfer gweithio ym myd pêl-droed.

Pa gyngor fyddech chi’n ei roi i unrhyw un sydd am weithio mewn maes tebyg?  

Byddwch yn rhagweithiol, a cheisio gwella’r hyn rydych yn ei wneud bob tro.

Ewch am bob cyfle ddaw, hyd yn oed os mai rolau gwirfoddoli di-dâl dydyn nhw, oherwydd does wybod ble y gallent arwain, ac mae’n ffordd ichi ennill profiad.

A fyddech chi’n argymell dilyn cwrs ym Mhrifysgol Glyndŵr, a pham?

Byddwn – mae natur holistaidd y staff yn ei gwneud yn ddewis hawdd, ynghyd ag ansawdd y cyrsiau a’r cyfleusterau – byddwn i’n bendant yn argymell y cwrs hwn ar gyfer unrhyw un sydd ar dân dros bêl-droed!    

Beth yw eich hoff atgof o’ch amser yng Nglyndŵr?

Dim ond 1? Gwylio fy ffrind a’m cyd-fyfyriwr yn rhagori yn eu cyflwyniad ym mlwyddyn 2 ar ôl i bethau fod yn eithaf anodd iddynt yn y ddwy flynedd gyntaf. Roedd yn rhyw foment ‘eureka’ i bawb wrth inni sylweddoli ein bod ni gyd wedi newid eithaf tipyn, ac roedd yr holl garfan yn teimlo balchder mawr yn y foment honno. 

Petaech chi’n crynhoi eich profiad Glyndŵr gyda dyfyniad, beth fyddai hynny?  

“Mae pawb yn meddwl am newid y byd, ond does neb yn meddwl am newid ei hun.”

 (Tolstoy)

[Hoffwn ddweud] diolch o waelod calon i holl ddarlithwyr a staff Glyndŵr am roi’r cyfleoedd a’r profiadau imi fydd yn aros gyda mi am byth. Fe gerddais i mewn yn gobeithio ennill gradd a'r cap a’r gwn ac ati. Fe gerddais i allan 4 mlynedd yn ddiweddarach gyda llawer mwy na hynny, ffrindiau da a swydd rwy’n ei charu.