Astudiodd Ash Russell BSc (Anrh) Hyfforddi Pêl-droed a’r Arbenigwr Perfformiad yma ym Mhrifysgol Glyndŵr Wrecsam.

Sut wnaeth eich amser yma ym Mhrifysgol Glyndŵr eich paratoi chi ar gyfer byd gwaith?

Roedd fy amser yng Nglyndŵr yn arbennig ac fe ddysgais i lawer o wybodaeth ddamcaniaethol ond hefyd fe ges i gyfle i’w gymhwyso. Roedd y gefnogaeth a’r arweiniad hefyd mor dda wrth inni ddefnyddio’r wybodaeth mewn amgylcheddau cymhwysol, felly doeddwn i ddim yn mynd i mewn heb fy addysgu neu’n ddall. Fe wnaeth y wybodaeth a’r ffordd y cafodd ei chyflwyno fy ngalluogi i ddatblygu ymhellach fy niddordeb mewn hyfforddi pêl-droed, gwyddor chwaraeon a gweithgaredd corfforol yn gyffredinol yn ogystal â’m galluogi i ennill bathodynnau hyfforddi fel cymwysterau ychwanegol.

Beth ydych chi’n ei wneud yn eich swydd bresennol?

Teitl fy swydd bresennol yw ‘Arweinydd Cyfnod Sylfaen’ (Foundation Phase Lead) gydag Academi New Saints ac yn fy swydd rydw i’n hyfforddi a goruchwylio grwpiau oedran yn yr academi o’r rhai Dan 7 i Dan 11. Rydw i’n trefnu gwyliau, twrnameintiau a gemau ac yn sicrhau bod gan chwaraewyr ystod o fformatau a chyfleoedd i ddatblygu eu sgiliau. Rydw i hefyd yn cefnogi hyfforddwyr o fewn y cyfnod ac yn cwblhau tasgau gweinyddol amrywiol i sicrhau bod yr holl ddata ar gyfer pob chwaraewr yn gyfredol (cynlluniau lleoli unigol, cofrestr presenoldeb ac ati). Yn ogystal â hyn, rydw i’n cefnogi ac yn adrodd yn ôl gyda gwybodaeth i fy Mhennaeth Hyfforddi a Phennaeth yr Academi.

Rydw i’n arwain 2 grŵp oedran o fewn yr Academi hefyd, un yn fy nghyfnod fy hun ac un grŵp oedran hŷn. Rydw i’n hyfforddi grwpiau ar gyfer 3 cytundeb hyfforddi a 2 gêm (1 i bob tîm) yr wythnos, ac felly’n brysur iawn.

Beth fu uchafbwyntiau eich gyrfa hyd yn hyn?

Mae ‘na lawer, am ein bod ni’n hynod ffodus yn TNS ein bod ni wedi cael cyfle i chwarae mewn twrnameintiau ar draws y byd, yn erbyn clybiau adnabyddus yma a thraw. Rydym ni wedi chwarae Barcelona mewn twrnamaint o’r enw ‘Jamon Cup’ yn Calamocha, Sbaen gyda’r tîm Dan 13 sydd gennym ar hyn o bryd, a hefyd wedi cael gwahoddiad i chwarae’r rhan fwyaf o’r clybiau mawr yn Lloegr, megis Lerpwl, Everton, Man United, Man City a mwy. Mae’r rhain yn ddiwrnodau gwych bob tro.

Heblaw am y gemau, rhai o’r uchafbwyntiau mwyaf yw’r datblygiad welwch chi yn y bobl hynny rydych yn gweithio gyda nhw. Yn y clwb rydw i wedi arwain un grŵp penodol ers ymuno, ac yn y grŵp yma roedd gennym ni 3 chwaraewr a symudodd i glybiau CAT-1 a 2 arall yn symud i academïau CAT-2 a CAT-3, mae hyn, yn fy marn i, ynghyd â 10 o chwaraewyr yn cael eu dewis ar gyfer gemau rhanbarthol Gogledd Cymru FAW, wedi bod yn llwyddiant mawr ar gyfer y clwb, ac yn rhywbeth rwy’n ymfalchïo ynddo.

Beth wnaeth ichi ddewis Prifysgol Glyndŵr?

Rydw i wedi byw yn Wrecsam gydol fy mywyd, ac wedi gweld Glyndŵr o’r cychwyn cyntaf fel prifysgol y gallwn i ddychmygu fy hun ynddi. Wrth imi fynd drwy dudalennau UCAS a sgrolio i weld pa gyrsiau oedd o ddiddordeb i mi, fe welais fod y brifysgol yn arbenigo mewn gradd newydd yn ymwneud â Phêl-droed a Hyfforddi ac roedd hwn yn gwrs oedd yn apelio’n fawr iawn i mi. Ar ôl siarad gydag arweinydd y rhaglen a thrafod y cwrs, roeddwn i’n gwybod mai dyma oedd y cwrs i mi.

Sut wnaeth astudio yng Nglyndŵr eich helpu chi?

Rhoddodd y radd yng Nglyndŵr yr holl wybodaeth ddamcaniaethol a chymhwysol i’m galluogi i fod yn hyderus wrth weithio yn y byd go iawn. Roedd hyn yn ogystal â rhoi llawer o gyfleoedd i mi ddadansoddi unigolion lefel elît eraill o fewn y diwydiant, gan roi rhywbeth imi anelu ato. Heb y radd fyddwn i’n bendant ddim ble rydw i nawr oherwydd cyn y radd roeddwn i’n hyfforddwr Lefel 1 yn helpu tîm pêl-droed fy mrawd am nad oedd gen i unrhyw beth arall i’w wneud.

Pa gyngor fyddech chi’n ei roi i unrhyw un sydd am weithio mewn maes tebyg?  

Hyfforddwch bobl gymaint medrwch chi, waeth beth yw’r lefel am y bydd o gymorth ichi ennill profiad a dyna’r peth mwyaf gwerthfawr. Fe wnewch chi gamgymeriadau ac fe fydd pethau’n mynd o’i le, ond rydych chi’n byw gyda hynny ac yn dysgu, a dyna’r rhan orau. Po fwyaf o brofiad sydd gennych chi, yna gorau medrwch chi addasu pethau a datblygu eich chwaraewyr ymhellach beth bynnag y bo’r lefel. Fe all olygu neidio allan o’ch parth cysur ac fe all hynny fod yn frawychus, ond yn bendant mae’n werth ei wneud, am y byddwch chi ar eich ennill. I mi, mae profiad hyfforddi yr un mor bwysig â’r bathodynnau sydd gennych chi.

A fyddech chi’n argymell dilyn cwrs ym Mhrifysgol Glyndŵr, a pham?

Mi fuaswn i’n bendant yn argymell gradd ym Mhrifysgol Glyndŵr gan fod y cyfleusterau, y tiwtoriaid a’r wybodaeth y byddwch chi’n eu derbyn i gyd yn wych. Mae’r cyfleoedd a gewch yn unigryw ac yn eich paratoi ar gyfer dyfodol o fewn eich diwydiant, beth bynnag yw hynny.

Beth yw eich hoff atgof o’ch amser yng Nglyndŵr?

Mae ‘na gymaint o rai da. Roedd y sgwrsio gyda’r garfan yn arbennig ac rwy’n siŵr y bydd Chris a Sara yn dweud yr un peth am hynny. Roedd y diwrnod yr aethom ni i Gampws Etihad am daith a thrafodaeth yn agorwr llygaid, gan ddangos i mi beth allwn i fod o weithio’n galed a llwyddo. Roedd y cyfleuster a lefel y manylion yr oedden nhw’n gweithio iddi yn anhygoel ac rwy’n cofio cymryd 100oedd o luniau i fynd yn ôl gyda mi i’w dadansoddi - diwrnod addysgiadol iawn. 

Petaech chi’n crynhoi eich profiad Glyndŵr gyda dyfyniad, beth fyddai hynny?  

“Os ydych chi’n caru’r hyn rydych yn ei wneud, wnewch chi fyth gweithio diwrnod yn eich bywyd”. Os ydych chi’n fy adnabod i, mae hynny braidd yn ddwfn, fodd bynnag mae yn crisialu’r holl beth i mi, ac fe wnes i fwynhau pob moment yn ystod fy ngradd yng Nglyndŵr ac rydw i wedi parhau i wneud hynny yn fy mhroffesiwn nawr.