Mae Catherine yn fyfyriwr BA Troseddeg a Chyfiawnder Troseddol 2il flwyddyn ym Mhrifysgol Wrecsam Glyndŵr.

Beth oeddech chi’n gwneud cyn dod i Brifysgol Glyndŵr Wrecsam?

Roeddwn i’n fam lawn-amser. 

Beth ddenodd chi i Brifysgol Glyndŵr Wrecsam?

Mae rhai o’r profiadau personol a gefais wedi dylanwadu ar fy mhenderfyniad i addysgu fy hun, a rhoi rhywbeth yn ôl mewn ymateb i’r cymorth anhygoel a gefais gan gyrff cyhoeddus yn ystod yr amser anodd hwnnw. Hefyd mae gen i 2 blentyn ifanc ac roedden nhw’n 2 a 3 mlwydd oed ar y pryd. Roeddwn i’n ymwybodol bod yr amser yn cyflym agosáu pryd y byddai’r ddau blentyn yn yr ysgol amser llawn, ac yn y bôn roeddwn i am ddarparu gwell dyfodol ar eu cyfer, a’u haddysgu drwy wneud hynny.

A ddaethoch chi i ddiwrnod agored? Sut aeth hi?

Roedd pawb yn hynod groesawgar ac roedd hi’n hawdd gwybod ble i fynd. Roedd y staff yn barod iawn i helpu, a hefyd felly’r darlithwyr hynny bûm i’n siarad â hwy am y cyrsiau oedd o ddiddordeb i mi.

Sut awyrgylch sydd ar y campws?

Mae’r awyrgylch o amgylch y campws yn gyfforddus ac hamddenol.

Beth ydych chi’n ei fwynhau fwyaf am eich cwrs?

Popeth. Mae’r adran yn cael ei rhedeg yn dda, ac mae’r cwrs yn ddiddorol.

Beth ydych chi’n gobeithio gwneud unwaith ichi raddio?

Yn wreiddiol roeddwn am weithio gyda’r gwasanaeth Cefnogi Tystion, fodd bynnag mae’r cyfleoedd sydd ar gael yn aruthrol. Mae gen i hefyd ddiddordeb mewn Cyfiawnder Ieuenctid, Adsefydlu, Ymyrraeth Gynnar a Therapi Ymenyddol Gwybyddol. Mae’r posibiliadau yn ddibendraw.

Sut fu’r gefnogaeth?

Mae’r gefnogaeth wedi bod yn anhygoel, ac fel myfyriwr hŷn mae hi’n sawl blwyddyn ers imi fod ym myd addysg, a fwy na hynny, ar lefel academaidd. Mae cymorth eang ar gael gydag aseiniadau, i berfformio ar y lefel sydd ei hangen ar gyfer eich gradd.   

Sut ydych chi’n credu ichi elwa o astudio ym Mhrifysgol Glyndŵr Wrecsam?

Rydw i wedi tyfu’n llawer mwy hyderus yn fy mywyd ym mhob ffordd posib, ac yn teimlo bod modd cyflawni unrhyw beth os yw’r angerdd yno ynddoch chi. Rydw i nawr yn cyflawni ar lefel sydd tu hwnt i’r hyn a gredwn y gallwn i gynt, ac wedi fy ngrymuso drwy hynny.

Petaech chi’n crynhoi eich profiad ym Mhrifysgol Glyndwr Wrecsam mewn un gair, beth fyddai hynny a pham?

Trawsffurfiol, nid yn unig yr ydw i wedi rhagori tu hwnt i’r hyn a ddychmygais, ond mae fy nyfodol nawr ar lwybr hollol newydd a hynod gyffrous. Fedraf i ddim aros i’r drws nesaf agor.