Mae Chris Wallace yn astudio MRes mewn Gwyddor Chwaraeon, Ymarfer Corff ac Iechyd yn Wrecsam. Mae Chris hefyd wedi gwblhau ei BSc (Anrh)  Gwyddorau Cymhwysol Chwaraeon ac Ymarfer Corff gyda ni.

 

Sut wnaeth eich cyfnod ym Mhrifysgol Wrecsam eich paratoi ar gyfer byd gwaith?

I mi, gyda phrofiad eisoes o fyd gwaith roedd dychwelyd i addysg yn gam mawr. Er bod gen i brofiad yn barod, rydw i’n teimlo bod y tair blynedd diwethaf wedi bod yn gyfle i mi ddatblygu sgiliau sydd wedi dechrau fy helpu i wrth imi ddychwelyd i’r gwaith. Rydw i’n credu’n gryf bod fy sgiliau blaenoriaethu wedi gwella, ynghyd â’m gallu i weithio i derfynau amser. Rydw i hefyd wedi sylwi bod fy sgiliau gweithio mewn tîm a sgiliau arweinyddiaeth wedi datblygu hefyd.

Beth ydych chi’n ei wneud yn eich swydd gyfredol?

Ar hyn o bryd rydw i’n gweithio fel hyfforddwr dycnwch hunangyflogedig a hyfforddwr/tiwtor addysgu ar gyfer sawl corff llywodraethu a darparwyr hyfforddiant. Am fod y gwaith mor amrywiol, mae’n rhaid imi rannu fy amser rhwng sawl blaenoriaeth, o gwblhau asesiadau hyfforddi ac addysgu ymarferol a damcaniaethol i gwblhau ymgynghoriadau gydag athletwyr, rhagnodi rhaglenni hyfforddi a dadansoddi data hyfforddi a rasio i ddatblygu eu ffitrwydd a’u sgiliau.


Beth fu uchafbwyntiau eich gyrfa hyd yn hyn?

Gweithio gyda sawl athletwr i helpu i ddatblygu eu ffitrwydd i gymhwyso ar gyfer pencampwriaethau grwpiau oedran mewn triathlon. Gweithio fel rhan o dîm addysg hyfforddwyr rhagorol ar gyfer Triathlon Cymru, a bod yn rhan o newid sut mae’r cyrsiau ardystio hyfforddwyr yn cael eu darparu oherwydd cyfyngiadau COVID-19.

Beth wnaeth ichi ddewis Prifysgol Wrecsam?

Roedd yna sawl ystyriaeth ymarferol ynghlwm wrth fy mhenderfyniad, gan gynnwys pellter o gartref. Eto i gyd, un o’r prif yrwyr oedd argymhellion gan gyn-fyfyrwyr ynghylch pa mor groesawgar yw Wrecsam tuag at fyfyrwyr hŷn. Hyn, ynghyd â chael cyfle i drafod fy opsiynau o fewn y brifysgol gyda darlithwyr yn yr adran, a’r gefnogaeth a’r wybodaeth sydd ganddynt ar draws ystod eang o arbenigaethau, yn enwedig am nad oeddwn i’n siŵr pa faes oeddwn i am ganolbwyntio arno.

Pa fath o fyfyriwr oeddech ag ydych chi?

Ar y cyfan, dwi’n meddwl imi fod ar dân dros ddysgu gydol fy amser yng Wrecsam. Ar adegau roeddwn i braidd yn hwyr yn y dydd gyda fy ngwaith, ac mae’n debyg nad oeddwn i’n canolbwyntio gymaint ag y gallwn i fod wedi. Ond, gyda chefnogaeth fy narlithwyr a’r arweiniad a gefais, roedd hwn yn faes y gwnes i weithio i’w ddatblygu.

Sut gwnaeth astudio ym Mhrifysgol Wrecsam eich helpu chi?

Roedd gallu ddychwelyd i fyd addysg yn fy mhedwardegau yn gyfnod pryderus a digon brawychus. Eto i gyd, roedd y gefnogaeth wych a dderbyniais o fewn y brifysgol yn gwneud imi deimlo fy mod yn gwneud y penderfyniad cywir, ac mae wedi fy helpu i ddatblygu fy hyder o fewn fy maes astudio, a’r sgiliau academaidd sydd eu hangen i wneud yn dda.

Pa gyngor fyddech chi’n ei roi i rywun sydd am weithio mewn maes tebyg?

Mae’n debyg mai’r darn gorau o gyngor y gallwn ei gynnig yw peidio byth â gwrthod y cyfle i ehangu eich profiadau cymhwysol, a manteisio ar bob cyfle i wella eich sgiliau a’ch rhoi chi y tu hwnt i’ch parth cysur.

Fyddech chi’n argymell gwneud cwrs ym Mhrifysgol Wrecsam, a pham?

Byddwn, mi fuaswn i’n argymell astudio ym Mhrifysgol Wrecsam 100%, yn enwedig yn yr adran Gwyddorau Chwaraeon, oherwydd am fod yr adran un llai o ran maint, mae’r cyfleoedd i gymryd rhan gyda digwyddiadau ychwanegol, interniaethau a phrofiadau yn rhagorol, a hefyd mae’n llawer haws siarad gyda darlithwyr a staff eraill. Yn fwy na dim, rydych yn teimlo bod y staff yn gwybod pwy ydych chi, beth sydd o ddiddordeb ichi, ac mae’r ffordd rydych yn datblygu o bwys gwirioneddol iddyn nhw!

Beth yw eich hoff atgof o’ch amser yng Wrecsam?

Un o’r profiadau gorau a gefais oedd cwblhau fy nhraethawd estynedig ar effeithiau Sudd Ceirios Surion, ac fe roddodd hyn brofiad gwych imi o sut beth yw cynnal ymchwil o’r dechrau i’r diwedd, a chael fy nghroesawu gan Brifysgol Wrecsam a’r staff yn yr adran Gwyddorau Chwaraeon.

Petaech chi’n crynhoi eich profiad Prifysgol Wrecsam mewn dyfyniad, beth fyddai hynny?

Roedd dod yn fyfyriwr hŷn yn gyfnod brawychus, ond fe’i gwnaed yn llawer gwell trwy gael fy nghefnogi a’m croesawu gan Brifysgol Wrecsam a’r staff yn yr adran Gwyddorau Chwaraeon.