Mae Debbie yn fyfyriwr BSc Iechyd Meddwl a Lles yn ei blwyddyn gyntaf ym Mhrifysgol Wrecsam Glyndŵr.


Beth oeddech chi’n gwneud cyn dod i Brifysgol Glyndŵr Wrecsam?

Roeddwn i’n gymhorthydd dysgu a gweithiwr cymorth ieuenctid am ddeng mlynedd.
 
Beth ddenodd chi i Brifysgol Glyndŵr Wrecsam?

Mae’n agos i gartref felly rydw i’n gallu teithio yno bob dydd ac mae’n hynod gynhwysol o ran dysgwyr anhraddodiadol.
 
Beth ydych chi’n hoffi fwyaf am eich cwrs?

Mae’r cwrs yn cael ei redeg yn dda ac mae’n drefnus. Mae’n hawdd iawn mynd at y staff ac mae’n yn llawn cefnogaeth.
 
Beth ydych chi’n gobeithio gwneud unwaith ichi raddio?

Rydw i am gefnogi pobl ifanc sydd â phroblemau iechyd meddwl ac addysgu eraill.
 
Sut fu’r gefnogaeth?

Gwych, mae modd mynd at y darlithwyr unrhyw adeg am gymorth a chyngor. Hefyd mae cymorth academaidd ychwanegol ar gael ar gyfer pawb ar sail un wrth un, mewn grwpiau bach ac mewn sesiynau galw heibio yn ystod amser cinio.
 
Sut yn eich barn chi rydych chi wedi elwa o astudio ym Mhrifysgol Glyndŵr Wrecsam?  

Mae fy ngwybodaeth yn fy maes pwnc wedi gwella’n aruthrol, ond hefyd felly fy sgiliau technoleg gwybodaeth, ac mae fy hyder wedi gwella’n aruthrol. Rydw i wedi gwneud ffrindiau newydd ac fe welais i welliant yn fy lles.
 
Petaech chi’n crynhoi eich profiad ym Mhrifysgol Glyndŵr Wrecsam gydag un gair, beth fyddai hynny a pham?

Ffantastig! Mae fy mywyd wedi newid yn llwyr er gwell. Dyma’r peth gorau i mi wneud erioed ac rydw i’n caru pob munud.