Mae Ewa yn fyfyriwr BSc Adsefydlu a Rheoli Anafiadau ym Mhrifysgol Wrecsam Glyndŵr.

Beth oeddech chi’n gwneud cyn dod yma i Brifysgol Glyndŵr Wrecsam?

Cyn imi ddod i’r brifysgol roeddwn i’n gweithio mewn sba iechyd, ble roeddwn i’n ymarfer a gwella fy sgiliau ac ehangu fy ngwybodaeth drwy’r amser. Ar ôl treulio pedair blynedd yn gweithio yno, fe benderfynais ei bod hi’n amser i gamu ymlaen, a dyna pam y penderfynais i geisio am le ar y cwrs gradd mewn Adsefydlu a Rheoli Anafiadau ym Mhrifysgol Glyndŵr Wrecsam.

Beth ydych chi’n mwynhau fwyaf am eich cwrs?

Rwy’n caru’r clinig, rydw i’n berson ymarferol, ac yn caru gweld y wybodaeth newydd sydd gen i yn cael ei rhoi ar waith. Rydw i wrth fy modd yn rhyngweithio gyda’r cleientiaid a gweld sut gall y therapydd wella eu hiechyd a’u lles.

Sut fu’r gefnogaeth?

Mae’r gefnogaeth gan y darlithwyr a’r staff wedi bod yn wych, am eu bod nhw wastad yno i ni. Maen nhw’n hyblyg iawn o ran apwyntiadau neu gymorth. Mae yna ddigon o gefnogaeth ar gael hefyd gan y brifysgol, sgiliau academaidd, mae’r tîm anableddau yn wych felly ydw, rydw i’n mwynhau’n fawr iawn. 

Beth hoffech chi wneud wedi graddio?

Rwy’n gobeithio cael swydd ble medraf i ennill mwy o wybodaeth ac ehangu a gwella fy sgiliau yn helpu fy nghleifion. Hefyd, fe hoffwn i barhau gyda fy ngyrfa a cheisio am le ar gwrs meistr mewn ffisiotherapi.