Mae Georgia Roberts yn astudio BSc (Anrh) Gwyddor Cymhwysol Chwaraeon ac Ymarfer Corff yn Wrecsam.

 

Beth oeddech chi’n ei wneud cyn dod i Brifysgol Wrecsam?

Roeddwn i’n astudio BTEC Chwaraeon yng Ngholeg Cambria Wrecsam.

Beth wnaeth eich denu i ddod i Brifysgol Wrecsam?

Y radd gwyddor chwaraeon a’r dyfarniad dysgu arian. Y ffaith bod y brifysgol yn fy nhref enedigol, ac yn hawdd ei chyrraedd.

Aethoch chi i ddiwrnod agored/diwrnod ymgeiswyr/digwyddiad pwnc? Beth oedd eich argraffiadau? Oedd hyn yn ddefnyddiol?

Yn ystod y flwyddyn gyntaf ni fedrais i fynd i unrhyw ddiwrnod agored oherwydd COVID ond roedd fy argraffiadau cyntaf o’r sefydlu ar-lein yn gadarnhaol. Roedd y sesiwn sefydlu yn ddefnyddiol o ran cwrdd â phobl eraill yn fy nosbarth a hefyd y tiwtoriaid. Hefyd roedd y wybodaeth a ddarparwyd yn ddefnyddiol o fod yn hollol newydd i brifysgol.

Sut awyrgylch sydd ar y campws?
Ar hyn o bryd mae’r awyrgylch yn wych gan fod pawb bron wedi ddychwelyd i normal ers COVID. Mae’r cyfleusterau o amgylch y campws wedi ail-agor, sydd yn braf i weld. Rydw i’n dechrau gweld sut beth yw bywyd prifysgol “normal”.

Beth ydych chi’n ei fwynhau fwyaf am eich cwrs?

Rydw i’n mwynhau ochr ymarferol y cwrs. Dysgu sgiliau ymarferol newydd a chymryd rhan yn y sesiynau ymarfer corff.

Beth ydych chi’n gobeithio gwneud unwaith ichi raddio?

Rydw i dal yn ansicr ynglŷn â beth rydw i am ei wneud ar ôl y cwrs, ond rydw i’n bendant yn ennill mwy o sgiliau a gwybodaeth o fewn y sector chwaraeon i fy helpu i benderfynu ble rydw i am fynd nesaf.

Sut gefnogaeth gawsoch chi? 

Mae’r tiwtoriaid ar gael ac yn ateb e-byst/negeseuon yn eithaf cyflym sydd yn ddefnyddiol dros ben. 

Sut ydych chi’n meddwl eich bod wedi elwa o astudio ym Mhrifysgol Wrecsam?

Rydw i’n gwneud cynnydd yn academaidd, ond rydw i hefyd yn meddwl bod astudio yn y brifysgol yn helpu gyda fy hyder a theimlo bod gen i deimlad o bwrpas i’m hastudiaethau. Rwy’n aml yn gorfod rhoi fy hun y tu hwnt i’m parth cysur, sydd â dweud y gwir yn dod yn beth da o ran fy hyder.

Petaech chi’n crynhoi eich profiad ym Mhrifysgol Wrecsam gydag un gair, beth fyddai hynny a pham?

Annisgwyl – mae hyn am nad oeddwn i’n disgwyl cael profiad o brifysgol yn ystod pandemig felly doedd o ddim yn union beth oeddwn i’n ei ddisgwyl. Fodd bynnag, wnes i chwaith ddim disgwyl dysgu cymaint ag y gwnes i ar-lein. Roeddwn i’n ddigon hapus gyda sut gwnes i yn fy mlwyddyn gyntaf o ystyried mai prin yr es i i’r campws. Mae eleni wedi bod mwy fel y profiad prifysgol yr oeddwn i’n ei ddisgwyl, gyda mwy o sesiynau wyneb-i-wyneb ac ymarferol, sydd wedi fy helpu i mewn sawl ffordd wahanol.